Mae Gemau Tokyo 2020 yn cael eu cynnal o’r diwedd ac mae mor gyffrous gallu eu gwylio eleni. Nid yn unig am ein bod ni wrth ein boddau’n cefnogi Tîm Prydain fawr ond, eleni, mae’r Gemau’n  fwy arbennig byth i ni. Mae dau o nofwyr Tîm Prydain Fawr, Dan Jervis ac Alys Thomas, wedi bod yn hyfforddi yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe er mwyn paratoi at y Gemau.

Roedden ni’n ddigon ffodus i gael sgwrs fyr â Dan cyn iddo hedfan i gemau Tokyo a gofynnon ni ychydig o gwestiynau iddo am sut brofiad yw bod yn Olympiad. Darllenwch ei atebion isod neu ewch draw i’n tudalennau Instagram. (@swanseabaysportspark).

Dywedwch wrthym am eich emosiynau pan gawsoch wybod eich bod yn mynd i gystadlu yn Japan yn y Gemau Olympaidd?

Roedd gennyf lu o emosiynau pan gefais wybod fy mod yn mynd. Roedd gen i syniad da y byddwn yn cymhwyso cyn gynted ag y gwnes i gyffwrdd  â’r wal. Gwireddwyd fy mreuddwydion, dyma’r cyfan rwyf erioed wedi bod eisiau ei wneud, a phan ddaeth yn wir, gwnaeth fy llenwi â hapusrwydd.

Rydych wedi neilltuo llawer o waith caled ac wedi dangos natur broffesiynol tu hwnt i aros ar y brig am gymaint o amser. Beth sy’n eich ysgogi i gadw i fynd?

Rwy’n credu mai’r hyn sy’n fy nghadw i fynd yw fy mod wedi cael yr un freuddwyd ers i mi fod yn blentyn ifanc. Fy mreuddwyd oedd cymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd ac ennill un diwrnod. Yr eiliad y byddaf yn deffro ac ni fyddaf yn meddwl bod y freuddwyd honno’n realiti yw’r diwrnod y byddaf yn gorffen nofio. Mae nofio’n gamp ddwys iawn; rhaid i chi aberthu llawer.

Y rheswm pam rwyf yn teimlo fy mod wedi parhau am gymaint o amser yw oherwydd bod gennyf yr un freuddwyd a’r gefnogaeth o’m cwmpas sy’n fy nghadw i fynd.

Dywedwch ychydig am y cyfleusterau a’r rhaglen perfformiad uchel yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe?

Rwy’n ffodus iawn fy mod yn dod o Abertawe, oherwydd rwyf wedi nofio mewn pyllau a lleoliadau ledled y byd ac efallai fy mod ychydig yn rhagfarnllyd wrth ddweud hyn ond mae gan Abertawe un o’r pyllau gorau rwyf wedi nofio ynddo. Mae ganddo’r holl gyfleusterau y mae eu hangen arnaf, oherwydd nid wyf wedi gorfod mynd i rywle arall i fod yn Olympiad. Mae’r pwll yma yn Abertawe gyda’r gorau yn y byd!

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i nofiwr ifanc a hoffai gyrraedd y Gemau Olympaidd ryw ddiwrnod?

Mae gennyf ddigon o gyngor!Y prif beth yw mwynhewch eich hun, yn enwedig o oed ifanc.Mae gennyf ffrindiau nofio ers i mi ddechrau nofio pan oeddwn i’n ifanc.

Mae’n rhaid i chi fod yn barod i aberthu cymaint o bethau fel amser ac egni, ond mae’n werth y cyfan, a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad.

Ymunwch â ni drwy gydol y Gemau a helpwch i gefnogi Tîm Prydain Fawr. Gadewch i ni ddod â’r medalau aur adref!