Ydyn ni eisoes wedi cyrraedd yr amser hwnnw o’r flwyddyn? Bydd gwyliau’r haf yn cyrraedd yn fuan ac yn fwy na thebyg rydych chi’n chwilio am rywbeth i’r plant ei wneud…efallai bydd modd i ni helpu. Mae’n bleser gennym ni groesawu’n ôl ein gwersylloedd Hoci ac Athletau Startrack yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe!
Byddan nhw’n cael eu cynnal yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf ac yn ystod mis Awst, a gobeithiwn y bydd rhywbeth sy’n cyd-fynd â’ch amserlen. Mae’r gwersylloedd hyn wedi’u dyfeisio i wella sgiliau eich plentyn yn y gamp benodol, boed mewn athletau neu hoci.
Mae ein gwersylloedd yn addas ar gyfer oedrannau gwahanol – mae Athletau Startrack yn briodol ar gyfer plant 9-14 oed ac mae hoci’n addas ar gyfer plant 7-15 oed. Bydd eich plentyn yn gwella ei sgiliau chwaraeon gyda chymorth gan hyfforddwyr achrededig, a hefyd bydd yn cwrdd â ffrindiau newydd yn ystod y cyfnod 4 diwrnod. Mae’r sesiynau yn 2021 wedi cael eu hehangu er mwyn cynnwys diwrnod ychwanegol o weithgareddau, ar sail adborth yn ystod blynyddoedd blaenorol!
Mae’r sesiynau yn 2021 fel a ganlyn, a bydd pob diwrnod yn para o 10am tan 3pm:
• Dydd Llun 26 – dydd Iau 29 Gorffennaf – Gwersyll Haf Athletau Startrack
• Dydd Llun 2 – dydd Iau 5 Awst – Gwersyll Haf Hoci
• Dydd Llun 9 – dydd Iau 12 Awst – Gwersyll Haf Athletau Startrack
• Dydd Llun 16 – dydd Iau 19 Awst – Gwersyll Haf Hoci
Mae’n costio £60 yn unig i gofrestru am bob un o’r gwersylloedd, ac mae hynny’n cynnwys crys-T a photel ddŵr wrth gyrraedd! Cewch chi gadw’r rhain i gofio eich amser gyda ni yn y gwersylloedd! I gadw lle ar gyfer un o’r gwersylloedd, cofrestrwch eich plentyn fel Aelod Talu wrth Fynd, yma a chadwch le drwy ein Porth Archebu. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â’r Ganolfan Athletau a Hoci yn ahc.sbsp@abertawe.ac.uk
Yn barod i gofrestru?
Dilynwch y canllaw fesul cam hwylus isod.
Cam 1 | Bydd angen i chi gofrestru eich plentyn fel aelod Talu wrth Fynd (peidiwch â phoeni, does dim tâl am hyn) i gadw lle ar ei gyfer yn ein gwersylloedd. Gallwch wneud hyn yma. |
Cam 2 | Wrth agor cyfrif Talu wrth Fynd, dylech chi roi enw, rhyw a dyddiad geni’r plentyn ond bydd rhaid rhoi manylion rhiant/gwarcheidwad lle gofynnir am rif a chyfeiriad e-bost cysylltu. |
Cam 3 | Cliciwch ar y ddolen ‘Archebu Nawr’ ar ddiwedd y broses gofrestru ac yn y blwch ‘Chwilio’ ar y dudalen nesaf (peidiwch â defnyddio’r bar chwilio yng nghornel dde uchaf y dudalen), dewiswch ddyddiad dechrau’r gwersyll hoffech chi gadw lle amdano a chliciwch ‘chwilio’. Byddwch yn gweld enw’r gwersyll o dan y tab ‘Cyrsiau’ tua gwaelod y dudalen. |
Cam 4 | Dilynwch y camau a thalu. Sylwer…bydd y system yn caniatáu i chi gadw lle am ddydd Llun yn unig, ond bydd plant yn cael eu cofrestru’n awtomatig am y pedwar diwrnod i gyd wrth ddewis hyn. Felly, peidiwch â phoeni, bydd eich plentyn wedi’i gofrestru am y cyfnod cyfan! |
Cam 5 | Cofiwch roi gwybod i ni os oes cyflyrau iechyd gan eich plentyn drwy eu nodi yn y blwch gwybodaeth ychwanegol wrth gadw’r lle, ond mae croeso i chi gysylltu â’r staff ar wahân i gadarnhau’r manylion hyn. |
Cam 6 | Cadwch lygad ar eich mewnflwch e-byst am gadarnhad bod y cyfrif wedi’i greu – dilynwch y cyfarwyddiadau a’r ddolen yn yr e-bost hwn i greu cyfrinair i’w ddefnyddio wrth gadw lleoedd yn y dyfodol. Sylwer bod y cam hwn yn angenrheidiol, yn enwedig wrth gadw lleoedd am fwy nag un plentyn. |
Cadw Lle yn y Dyfodol | Nawr bod cyfrif gan eich plentyn, gallwch gadw lle am ein gwersylloedd a’n hacademïau yn y dyfodol! Gallwch wneud hyn drwy’r porth archebu ar wefan Parc Chwaraeon Bae Abertawe, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a’r cyfrinair a ddefnyddiwyd yn y broses gofrestru hon. Diolch am gofrestru! |
Yn cofrestru mwy nag un plentyn?
Hoffech chi gadw lle am fwy nag un plentyn yn ein gwersylloedd? Rhaid i chi fynd drwy’r broses uchod eto ar gyfer pob plentyn ychwanegol, gan ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost, ond cyfrinair gwahanol ar gyfer cyfrif ychwanegol.
Aelod o’r Ysgol Ddŵr?
Ydy eich plentyn wedi’i gofrestru eisoes gyda Pharc Chwaraeon Bae Abertawe fel aelod o’r Ysgol Ddŵr? Cysylltwch â’r staff yn ahc.sbsp@abertawe.ac.uk a fydd yn gallu cynorthwyo!