Dyma ein dosbarthiadau mewnol ac rydym yn eu haddasu bob wythnos yn seiliedig ar eich adborth. Maent yn eich datblygu chi wrth i chi eu datblygu nhw. Isod mae’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan bob dosbarth.

Evolve Pure Strength – dyma ddosbarth sydd wedi’i rannu’n  gyfnodau sy’n seiliedig ar gryfder ac sy’n canolbwyntio ar brif batrymau symud y corff. Cynlluniwyd y dosbarth i wella effeithiolrwydd eich symudiadau, a thrwy hynny, wella perfformiad yn ein dosbarthiadau Evolve eraill, yn ogystal â gweithgareddau byw bob dydd.

Evolve HITT – mae’r enw’n dweud y cyfan. Dyma ddosbarth ar sail ysbeidiau dwysedd uchel, gyda throad diddorol. Dosbarth yn llawn byrfoddau sy’n ymwneud ag ymarfer corff, o AMRAPS i EMOMS.

Evolve Drive – Un ar gyfer y beicwyr tywydd braf sy’n mwynhau cerddoriaeth wych a chael to uwch eu pennau. Pwy ddywedodd ei bod hi’n bwrw glaw drwy’r amser yn Abertawe!? Eich dosbarth beicio dan do traddodiadol.

Evolve Unlimited – Cymysgedd o gardio a chodi pwysau lle gall unrhyw beth ddigwydd. 45 munud ond gallwch chi adael ar ôl 30 – fydd neb yn eich atal. Gall gynnwys unrhyw beth o gylchedau traddodiadol i sesiynau nod grŵp, a hyd yn oed heriau tymhorol llawn hwyl! Byddwn yn gwrando ar eich ceisiadau neu’ch syniadau ar y rhain, oherwydd rydym yn hoffi cynnig mathau newydd o ymarfer fel syrpreis.

Evolve Core – Cynlluniwyd y dosbarth hwn i weithio prif gyhyrau’r corff. 

Evolve Teen – mae hyn ar gyfer ein haelodau ieuengaf (14 i 17 oed) ac mae’n cynnwys cyfuniad o Evolve Pure Strength, HIIT a Core. Sylwer: does dim rhaid i bobl ifanc sy’n dod ddod yng nghwmni eu gwarchodwr cyfreithiol. 

Ioga – Cyfuniad o symudiadau sy’n llifo, cydbwyso ac ystumiau deinamig a gynlluniwyd i helpu i roi mwy o egni i chi a’ch cryfhau; caiff dosbarthiadau eu strwythuro’n briodol gydag ymarferion i gynhesu’r cyhyrau a’u taweli cyn yr ymlacio/ymwybyddiaeth ofalgar draddodiadol ar ddiwedd y sesiwn.

Pilates – math o ymarfer corff effaith isel â’r nod o gryfhau cyhyrau wrth wella aliniad y corff a’i hyblygrwydd.

Cliciwch yma i archebu dosbarth neu gallwch wneud hyn drwy Ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe. Mae dosbarthiadau am ddim i aelodau’r gampfa, neu ffi fechan am aelodau Talu Wrth Fynd. Unrhyw syniadau, ceisiadau neu faterion, rhowch wybod i ni ar baysportscentre@swansea.ac.uk.