O 4 Medi, bydd contractwyr ar y safle ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe i weithio ar:
- Osod cae 3G maint llawn newydd â llifoleuadau ar ein cae ‘Sketty 1’ blaenorol islaw’r trac athletau. Bydd modd chwarae rygbi neu bêl-droed ar yr arwyneb hwn, yn ogystal â chwaraeon eraill hefyd.
- Gwella ‘Sketty 2’ (y cae glaswellt isaf), gan lefelu’r arwyneb glaswellt â laser a gosod llifoleuadau rhannol at ddibenion hyfforddi.
Bydd hyn yn amharu ar ddefnyddwyr, gan fydd rhan o faes parcio Pwll Cenedlaethol Cymru ar gau yn ystod y gwaith, a cherddwyr yn unig fydd yn cael mynediad i’r Pafiliwn drwy lwybr amgen.