Rydym hefyd yn falch o weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau partner, gan gydweithio i gynnal ein henw da fel cyfleuster o’r radd flaenaf yn rhanbarth Bae Abertawe

Dysgwch fwy am ein partneriaid yma.

Ein partneriaid ariannu:

Prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil yw Prifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gyda chydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.

Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo yn ei hymrwymiad i chwaraeon a byw’n actif i bawb, o’r dechreuwr i’r athletwr elît. Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn gartref i Chwaraeon Abertawe sy’n cynnwys dros 60 o dimau chwaraeon ar draws y ddau gampws.