Chwaraeon Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe

Mae’r profiad chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe heb ei ail. Gyda dros 50 o glybiau chwaraeon i chi ddewis ohonynt, mae rhywbeth i bawb yn Chwaraeon Abertawe.

P’un a ydych chi’n anelu at chwaraeon elît neu ond eisiau dod yn heini gyda’ch ffrindiau, mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda rhaglen perfformiad uchel ragorol, cyfleoedd i gystadlu ar wahanol lefelau, cyfleusterau unigryw ac yn fwy na dim; cymuned gefnogol, chwaraeon lle byddwch yn meithrin cyfeillgarwch i bara am oes.

Eisiau mwynhau chwaraeon yn Abertawe heb gymryd rhan?

Mae hynny ar gael yma hefyd! Rydym yn croesawu pawb i fod yn rhan o’n cymuned chwaraeon myfyrwyr. Mae ein gwylwyr yn rhan enfawr o’n profiad yn Abertawe ac rydym yn cynnig pob math o gyfleoedd i wirfoddoli a chyfleoedd eraill i fyfyrwyr gymryd rhan yn ein gwaith.

Ewch Draw i’n tudalennau Chwaraeon Myfyrwyr ar wefan MyUni Abertawe i fyfyrwyr presennol flasu profiad chwaraeon myfyrwyr yn Abertawe.