Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, mae gennym amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

O gymryd rhan mewn cystadleuaeth i wersyll dros y gwyliau ysgol i gefnogi’r Fyddin Werdd a Gwyn yn Varsity. Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan!

Sylwer, mae’n bosib na fydd ein cyfleusterau ar gael ar adegau oherwydd y digwyddiadau hyn. Edrychwch ar ein calendr ar gyfer 2022 i weld beth sydd ar ddod a sut gallai effeithio ar eich ymweliadau.

Calendr Digwyddiadau ar Ddod
DateTimeEventLocationFacilities Impacted
28/10 & 29/10Trwy’r dyddCyfarfod Agored Castell-neddPwll Cenedlaethol CymruParcio Ceir
19/11Trwy’r dyddTwrnamaint Hoci Ieuenctid De CymruCaeau Hoci SingletonParcio Ceir
25/02Trwy’r dyddBiathlon Ysgolion Pentathlon GBPwll Cenedlaethol Cymru / Trac Athletau Awyr AgoredParcio Ceir

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad chwaraeon gyda ni? Llogwch ein cyfleusterau!

Gydag ystod eang o gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff i’w llogi ar draws dau gampws, yn sicr bydd gennym bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich digwyddiad chwaraeon. Mae ein tîm profiadol wedi gweithio gyda chyrff llywodraethu rhyngwladol a chenedlaethol i ddarparu popeth o logisteg y safle ar y diwrnod, rheoli prosiectau, arlwyo, marchnata / cyfathrebu, a rheoli llety ymhlith cyfrifoldebau eraill.

O logi cwrt neu gae, i archebu’r neuadd chwaraeon ar gyfer twrnamaint, neu gaeau chwarae ar gyfer diwrnod chwaraeon ysgol, gallwn helpu i ddod o hyd i’r cyfleuster cywir i chi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch a’n tim defnyddiol yma.

Digwyddiadau Chwaraeon

Mae ein cyfleusterau chwaraeon yn edrych dros bum milltir o draeth tywod ac ymysg y gorau yn ardal Bae Abertawe. Mae’r lleoliad hwn sy’n sicr o godi cenfigen, ynghyd â chyfleusterau gwych a’n cyfoeth o brofiad o drefnu a chefnogi digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon ar bob lefel wedi ein galluogi i gynnal digwyddiadau Ewropeaidd a rhyngwladol mawr. 

Mae ein portffolio digwyddiadau chwaraeon hynod yn cynnwys Pencampwriaethau Ewropeaidd Athletau IPC, Pencampwriaethau Cyffwrdd Ewropeaidd FIT, a Phencampwriaeth y Byd Rygbi 7 Prifysgol FISU, i enwi rhai.