Ioga

Mae ioga yn targedu hyblygrwydd, sefydlogrwydd craidd a chryfder. Mae’r rhaglen ffitrwydd hon yn ymgorffori ymarferion ymestyn dwfn. Gan ddefnyddio ystumiau sefyll a gorwedd bydd y dosbarth hwn yn eich gadael wedi eich ymestyn a’ch bywiogi’n dda am y diwrnod.

Pilates

Mae Pilates yn ffurf gynyddol o ymarfer corff, sy’n ymgorffori hyblygrwydd, symudedd a ystumiau cydbwysedd gyda ffocws ar gryfder craidd drwyddo draw. Mae cynyddu cydbwysedd cyhyrol a chryfder yn gwella ystum. Bydd y dosbarth yn cynyddu hyblygrwydd a chryfder yr asgwrn cefn meingefnol, thorasig a serfigol. Gan weithio ar eich lefel eich hun bydd y dosbarth o fudd i chi o’ch pen i’ch traed.