Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd ac ymarfer corff drwy gydol y dydd. 

P’un a yw’n well gennych Ioga, Nofio, Pilates Ffitrwydd, Kettlecise, neu Sbin, mae gennym rywbeth i bawb.

Evolve yw ein dosbarth ffitrwydd grŵp mewnol. Mae’r dosbarthiadau hyn yn newid yn wythnosol yn seiliedig ar eich adborth…maen nhw’n esblygu wrth i chi esblygu gyda nhw! Mae dros 8 opsiwn gwahanol i’w dewis felly mae digon o ddewis. Mae’r amserlen ddiweddaraf ar gael yma!

Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o ddosbarthiadau dŵr, mae’r holl opsiynau ar gael yma.

Mae’r holl ddosbarthiadau wedi’u cynnwys yn rhan o’ch aelodaeth. Ddim yn aelod ond hoffech chi roi cynnig ar ddosbarthiadau? Beth am gofrestru fel aelod talu wrth fynd?

Yn barod i archebu? Cliciwch yma