Evolve Strength

Mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio ar nodau cryfder. Gallwch fonitro’ch datblygiad ar sail yr elfennau buddiol sylfaenol sy’n angenrheidiol i wella’ch ffitrwydd, gan roi hwb i’ch hyfforddiant a’ch bywyd beunyddiol hefyd.

Evolve Unlimited

Cymysgedd o gardio a chodi pwysau lle gall unrhyw beth ddigwydd. 45 munud ond gallwch chi adael ar ôl 30 – fydd neb yn eich atal. Gall gynnwys unrhyw beth o gylchedau traddodiadol i sesiynau nod grŵp, a hyd yn oed heriau tymhorol llawn hwyl! Byddwn yn gwrando ar eich ceisiadau neu’ch syniadau ar y rhain, oherwydd rydym yn hoffi cynnig mathau newydd o ymarfer fel syrpreis.

Evolve Form

Bydd hwn yn ategu’r gwaith a wnaed yn ein dosbarthiadau cryfder, blast ac Evolve Unlimited eraill, gan weithio ar ddwy elfen. Yn gyntaf, y cyhyrau sefydlogi gweithredol pwysig sy’n helpu ymarferion eraill ac, yn ail, ffyrfhau rhannau eraill o’r corff megis y breichiau, y coesau, y pen ôl a’r bol.