Yn unol â chyngor presennol Llywodraeth Cymru, yn anffodus mae ein cyfleusterau i gyd ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.

Yn anffodus, ar hyn o bryd nid oes gennym ddyddiad ailagor. Wrth i’r sefyllfa ddatblygu ac mae gennym fwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, byddwn wrth gwrs yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n haelodau.

Cymru, byddwn wrth gwrs yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n haelodau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein staff yn parhau i weithio gartref. Mae croeso i chi gysylltu a ni drwy e-bost a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Dosbarthiadau Ar-lein

I’ch helpu i gadw’n heini pan nad yw’n bosibl ichi ymweld â ni, rydym wedi cynllunio cynnig ar-lein newydd, sy’n ceisio eich cadw’n heini ac yn iach gartref. P’un a ydych am geisio cwblhau dosbarth cyn gwaith, tua amser cinio neu gyda’r nos, maent ar gael 24/7 i weddu i’ch amserlen chi.

Byddwn yn postio cymysgedd o ddosbarthiadau BYW a recordir ymlaen llaw, ar ein sianel cyfryngau cymdeithasol dros y cyfnod clo. Bydd y dosbarthiadau’n amrywio o HIIT, Blast Ab i Ioga a Pilates.

Gallwch gael mynediad i’r sesiynau isod yn rhad ac am ddim mewn ychydig o gliciau!

Check the Sport Swansea Facebook Page

Cofiwch wrth ymarfer gartref mae angen sicrhau bod:
  • Digon o le i wneud pob ymarfer yn ddiogel a digon o le i symud yn rhwydd heb rwystrau
  • Unrhyw offer yn ddiogel ac mewn cyflwr da
  • Arwynebedd llawr yn glir rhag unrhyw beryglon a allai gynyddu’r risg o lithriadau, baglu neu gwympiadau
  • Digon o wresogi, golau, awyru a hydradu drwy gydol yr ymarfer