WNPS – DERBYNNYDD

DERBYNNYDD

Llawn Amser (35 awr)

Cyflog

 £18,200 y flwyddyn

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn chwilio am Dderbynyddion cyfeillgar i ymuno â’n tîm deinamig yn gweithio mewn amgylchedd hamdden prysur sy’n rhoi’r cwsmeriaid yn gyntaf.

Yn rhan o’r swydd, byddwch yn cynorthwyo’r gwaith o ddarparu gwasanaethau derbynfa, aelodaeth ac archebu mewn modd effeithlon, effeithiol a threfnus ar y safle er mwyn cyflawni gofynion Pwll Cenedlaethol Cymru a Pharc Chwaraeon Bae Abertawe.  

Mae sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol a phrofiad o werthu yn hanfodol, ac mae’n rhaid i’r ymgeisydd delfrydol fod â sgiliau gweinyddol y gellir eu profi, yn ogystal â gallu defnyddio cyfrifiaduron a meddu ar sgiliau bysellfwrdd da, a bod â phrofiad o weithio gyda’r cyhoedd mewn amgylchedd prysur sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf.

Bydd disgwyl i Dderbynyddion weithio ar rota shifftiau, a fydd yn cynnwys gweithio yn gynnar yn y bore, gyda’r nosau, ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

Cysylltwch â’r tîm recriwtio i gael sgwrs anffurfiol a ffurflen gais, drwy ffonio 01792 513596.

Bydd angen gwiriad DBS manwl ar ddeiliad y swydd hon.

Dyddiad cau:- 21.00 Dydd Sul, 19 Chwefror 2023

Cynhelir cyfweliadau ar yr wythnos yn dechrau 27 Chwefror 2023

Mae pecynnau ymgeisio a chopïau o’r rota patrwm gwaith ar gael ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Sketty Lane, Abertawe SA2 8QG

Ffôn: 01792 513513

E-bost: wnp@swansea.ac.uk neu gallwch eu lawrlwytho o

Jobs – Swansea Bay Sports Park

Ni dderbynnir dogfennau CV, a dylid anfon ceisiadau cyflawn (gan nodi ‘Preifat a Chyfrinachol’) at sylw Siân Whitmore s.m.whitmore@swansea.ac.uk