Evolve Blast 

Mae’r holl acronymau sy’n gysylltiedig ag ymarfer corff cardio yma – HiiTS, WODs, AMRAPs, EMOMs. Os bydd gennym amser ar y diwedd, byddwn yn ychwanegu her eithriadol o anodd ar gyfer y rhai dewr – neu ddwl. Chwiliwch am y symbol +

Evolve Drive

Un ar gyfer y beicwyr tywydd braf sy’n mwynhau cerddoriaeth wych a chael to uwch eu pennau. Pwy ddywedodd ei bod hi’n bwrw glaw drwy’r amser yn Abertawe!? Eich dosbarth beicio dan do traddodiadol.

Evolve Unlimited

Cymysgedd o gardio a chodi pwysau lle gall unrhyw beth ddigwydd. 45 munud ond gallwch chi adael ar ôl 30 – fydd neb yn eich atal. Gall gynnwys unrhyw beth o gylchedau traddodiadol i sesiynau nod grŵp, a hyd yn oed heriau tymhorol llawn hwyl! Byddwn yn gwrando ar eich ceisiadau neu’ch syniadau ar y rhain, oherwydd rydym yn hoffi cynnig mathau newydd o ymarfer fel syrpreis