Pilates Ffitrwydd

Dosbarth Pilates traddodiadol gyda thro cyflyru corff sy’n canolbwyntio ar gryfhau’r cyhyrau craidd. Cynyddu cydbwysedd cyhyrol a chryfder i wella ystum. Bydd y dosbarth yn cynyddu hyblygrwydd a chryfder yr asgwrn meingefn, thorasig a serfigol. Gan weithio ar eich lefel eich hun bydd y dosbarth o fudd i chi o’r coryn i’ch traed.

Ioga Ffitrwydd

Dosbarth ioga cyfoes sy’n targedu hyblygrwydd, sefydlogrwydd craidd a chryfder. Mae’r rhaglen ffitrwydd hon yn cynnwys ymarferion ymestynnu dwfn. Gan ddefnyddio ystumiadau sefyll a gorwedd, bydd y dosbarth hwn yn eich gadael wedi’ch llacio a’ch bywiogi am y diwrnod.

Pilates

Mae Pilates yn ddull blaengar o ymarfer corff, sy’n cynnwys hyblygrwydd, symudedd ac ystum cydbwysedd gan ganolbwyntio ar gryfder craidd drwyddi draw.