Mae dosbarthiadau Ioga a Pilates yn helpu i wella eich corff, meddwl a’ch enaid.
Ioga
Mae Ioga, a ddefnyddir gan dimau chwaraeon proffesiynol i helpu athletwyr i gyflawni eu nodau; yn ddefnyddiol i bob un ohonom wella hyblygrwydd, cryfder a rhyddhau tensiwn a straen
Pilates
YMae Pilates yn ddull blaengar o ymarfer corff, sy’n cynnwys hyblygrwydd, symudedd ac ystum cydbwysedd gan ganolbwyntio ar gryfder craidd drwyddi draw.
Ioga i ymlacio
Mae’r sesiwn hon yn gyfuniad o ioga ysgafn sy’n addas i bawb, anadlu iogig (Pranayama) ac ymlacio dan arweiniad. Fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i ryddhau tensiwn a straen, ac mae’n arbennig o ddefnyddiol os oes gennych lawer o waith meddwl yn eich astudiaethau neu’ch amgylchedd gwaith!
Ioga Pŵer
Cyfuniad o ddilyniannau llif, symudiadau cydbwyso ac ystumiau deinamig (asanas) i helpu i’ch bywiogi a’ch cryfhau; bydd strwythur priodol i’r sesiwn gydag ymarferion cynhesu ac ymestyn cyn yr ymlacio/myfyrio traddodiadol i ddod â’r sesiwn i ben.