Byddwch yn actif am o leiaf 20 munud yn gwneud gweithgaredd rydych chi’n ei fwynhau – mynd am dro, sesiwn yn y gampfa, ioga neu ddawnsio o gwmpas eich ystafell.

Diwrnod 2 – Awr i ffwrdd o’r sgrîn
Cymerwch seibiant o’ch ffôn neu’r cyfryngau cymdeithasol am awr heddiw. Defnyddiwch yr amser i ddarllen, ymestyn neu lonyddu’r meddwl.

Diwrnod 3 – Bwyd a diod i deimlo’n dda
Dewiswch fwyta neu yfed un peth iach heddiw – efallai ffrwyth yn lle byrbryd melys, neu rhowch gynnig ar lyfnffrwyth newydd.

Diwrnod 4 – Chwa o awyr iach
Treuliwch 15-30 munud yn yr awyr iach. Cerddwch i’r traeth, eisteddwch mewn llecyn gwyrdd, neu adolygwch yn yr awyr agored.

Diwrnod 5 – Munudau llonydd
Rhowch gynnig ar ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar – anadlu’n ddwfn, myfyrdod cyfeiriedig neu eistedd yn dawel am 5-10 munud.

Diwrnod 6 – Diolch am y pethau bychain
Ysgrifennwch dri pheth rydych chi’n ddiolchgar amdanynt heddiw, ni waeth pa mor fach ydynt. Mae paned o goffi da, ffrind caredig neu heulwen i gyd yn cyfrif.

Diwrnod 7 – Ymestyn a myfyrio
Estynnwch eich corff cyfan am 10 munud neu gwnewch sesiwn ioga ysgafn. Myfyriwch ar sut rydych chi wedi teimlo drwy’r wythnos a’r hyn rydych chi am ei gario ymlaen.