Parc Chwaraeon Bae Aberatwe

Rydym ni ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon ac yn annog byw’n egnïol i bawb, o ddechreuwyr i athletwyr elît.

Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn amrywio o Bwll Cenedlaethol 50m Cymru Abertawe, Trac Athletau Awyr Agored, caeau aml-ddefnydd, campfa, caeau hoci a llawer mwy!

Mae ein cyfleusterau Campws y Bae yn cynnwys neuadd chwaraeon uchder llawn, ardal gemau aml-ddefnydd (MUGAs) a champfa. Gyda staff ymroddedig wrth law i helpu gyda’ch anghenion hyfforddi, ochr yn ochr ag amrywiaeth o aelodaeth a dosbarthiadau ffitrwydd, mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gyrraedd eich nodau iechyd a ffitrwydd!

dod yn aelod

Porth Archebu Ymaelodwch