Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin Cyffredinol
Pwy sy’n gallu ymaelodi â Pharc Chwaraeon Bae Abertawe?

Mae gennym sawl math o aelodaeth i ddiwallu anghenion amrywiaeth o bobl, gan gynnwys y cyhoedd a myfyrwyr. Os hoffech ragor o wybodaeth am sut i ymaelodi, a’r mathau o aelodaeth rydym yn eu cynnig, edrychwch yma.

Sut gallaf ganslo fy aelodaeth?

Rydym yn deall os bydd angen i chi ganslo eich aelodaeth. Cysylltwch â thîm y dderbynfa a fydd yn gallu eich helpu.

Alla i rewi fy aelodaeth?

Caiff yr holl aelodau’r  rewi eu haelodaeth am hyd at 3 mis (90 dydd) mewn cyfnod o 12 mis. Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig, am yr hyd penodol, ac ar ddiwedd y cyfnod hwn, caiff yr aelodaeth ei dadrewi.

Sut gallaf archebu sesiwn?

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar-lein am aelodaeth, gallwch lawrlwytho Ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar yr App Store neu’r Play Store a defnyddio’r Ap i archebu’r cyfleusterau (badminton, pêl-fasged, sboncen, tennis bwrdd) a dosbarthiadau ffitrwydd.

Gallwch gadw lle saith niwrnod ymlaen llaw.

Os nad ydych chi’n gallu dod i ddosbarth ffitrwydd, canslwch eich lle cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda drwy’r Ap. Os nad ydych chi wedi cofrestru am aelodaeth, crëwch gyfrif drwy wefan SBSP.

Sut gallaf roi adborth?
  • Gall defnyddwyr roi adborth mewn sawl ffordd. Naill ai wyneb yn wyneb, drwy siarad ag un o aelodau cyfeillgar y tîm, a fydd yn gwneud cofnod o’ch adborth ar ein system.
  • Gallwch e-bostio eich adborth i: enquiries.sbsp@abertawe.ac.uk neu gym.sbsp@abertawe.ac.uk
  • O bryd i’w gilydd, byddwn yn e-bostio arolwg adborth at ein haelodau, a dyma’r cyfle delfrydol i ddweud eich dweud.
  • Rydym ni’n croesawu eich adborth er mwyn gwella ein gwasanaeth felly byddem ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Beth yw eich oriau agor?

Gallwch weld ein horiau agor diweddaraf yma.

Ble mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe?

Lleolir SBSP Singleton yn uniongyrchol gyferbyn â mynedfa Ysbyty Singleton.

Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti, Sgeti, Abertawe, SA2 8QB.  

Lleolir SBSP y Bae oddi ar Ffordd Fabian, ym mloc preswyl Talacharn (gyferbyn â’r golchdy).

Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Twyni Crymlyn, Abertawe SA1 8EN Am ragor o gyfeiriadau, gweler gwefan SBSP.

Allaf roi cynnig ar y cyfleusterau cyn talu am aelodaeth?

Nid ydym yn cynnig sesiynau rhagflas, ond gallwch gofrestru am aelodaeth Talu wrth Fynd. Gyda’r aelodaeth hon, byddwch yn talu am y sesiwn rydych chi wedi’i harchebu yn unig, felly mae’n ffordd wych o roi cynnig ar y cyfleusterau.

Ydych chi’n cynnig aelodaeth aml-safle?

Ydyn! Os oes gennych aelodau Campfa/Nofio a mwy, gallwch ddefnyddio Campfa Singleton Chwaraeon Abertawe a Champfa Chwaraeon Abertawe yn y Bae. Gallwch newid eich dewis lleoliad drwy’r ap a’r wefan i weld beth sydd ar gael ar bob safle i ddiwallu eich anghenion.

Pwy sy’n gymwys i dalu prisiau consesiynol?
  • Staff Prifysgol Abertawe
  • Staff Dinas a Sir Abertawe
  • Partneriaid/Gwragedd neu Ŵyr Staff Prifysgol Abertawe
  • Partneriaid/Gwragedd neu Ŵyr Staff Dinas a Sir Abertawe
  • Myfyrwyr (amser llawn) sefydliadau addysg eraill
  • Plant dan 16 oed
  • Aelodau’r gwasanaethau brys, tân, ambiwlans, yr heddlu, gwylwyr y glannau
  • Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Pobl dros 60 oed
  • Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
  • Pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff (gan feddyg teulu neu ymarferydd iechyd proffesiynol arall)
  • Staff y Gwasanaeth Sifil
  • Pasbort i Hamdden
  • Deiliaid Cerdyn Max
  • Aelodau presennol o’r lluoedd arfog
  • Cyn-aelodau o’r lluoedd arfog
  • Gofalwyr sy’n cefnogi defnyddiwr arall

Sylwch y bydd angen i bob aelod consesiynol ddarparu prawf o’i hawl i dalu’r pris consesiynol ar ei ymweliad cyntaf â’r cyfleusterau. Gall hyn gynnwys cerdyn adnabod, llythyr cyfeirio neu e-bost dilysu. Cysylltwch â’n staff yn memberships.sbsp@abertawe.ac.uk os oes gennych gwestiynau.

Ble gallaf barcio?

Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Parcio Talu ac Arddangos.

Prisiau:

Cofrestredig (aelodath SBSP)Heb gofrestru
Hyd at 2 Awr£0.50c£2.00
Hyd at 4 Awr£1.00£4.00
Drwy’r Dydd£6.00£6.00
AnogwyrAmherthnasolAmherthnasol
Deiliaid Bathodyn GlasRhyddRhydd

Cyfleusterau Campws y Bae
Gellir parcio dwy funud i ffwrdd o Ganolfan Chwaraeon y Bae. Dilynwch y system un ffordd wrth i chi gyrraedd y campws. Bydd arwyddion yn dangos y ffordd i chi pan fyddwch chi’n cyrraedd y gyffordd gyntaf. Maes parcio talu ac arddangos sydd (oni bai bod gennych chi hawliau barcio i staff y Brifysgol). 

Prisiau:

Hyd at 2 Awr – £1.50

Hyd at 4 Awr – £2.50

O 8am-6pm – £3.50

o 6pm-8am – £1.50

Rwyf wedi gadael rhywbeth ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, beth dylwn i ei wneud?

Peidiwch â phoeni, mae gennym wasanaeth eiddo coll. Cysylltwch â’r tîm perthnasol isod i geisio dod o hyd i’ch eitemau

Rrif FfonE-bost
Tîm Derbynfa01792 513513enquiries.sbsp@swansea.ac.uk
Cyfleusterau Campfa & Llogi Cyfleusterau Dan DoBay:
01792 543577
SBSP:
01792 513554
gym.sbsp@swansea.ac.uk
Canolfan Athletau a Hoci & Llogi Cyfleusterau Awyr Agored01792 602400ahc.sbsp@swansea.ac.uk
Oes ap Parc Chwaraeon Bae Abertawe?

Oes! Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho o’r App Store neu’r Play Store drwy chwilio am Swansea Bay Sports Park. Drwy’r ap, gallwch archebu a chanslo sesiynau yn y gampfa a’r pwll, gweld pa ddosbarthiadau sydd ar gael, archebu cwrt neu gallwch hyd yn oed logi cyfleusterau awyr agored.

Beth rydych chi’n ei wneud i sicrhau bod Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn ddiogel?

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau diogelwch ein haelodau a’n staff. Gallwch ddarllen ein Canllawiau i Gwsmeriaid yma.

Cwestiynau Cyffredin Nofio
Pa gynllun dysgu nofio y mae Ysgol Ddŵr yn ei ddefnyddio?

Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn defnyddio fframwaith Dysgu Nofio Cymru (LTSW) Nofio Cymru. Nofio Cymru yw’r Corff Llywodraethu nofio yng Nghymru.

Beth yw Dysgu Nofio Cymru (LTSW)?

Mae Dysgu Nofio Cymru yn llwybr di-dor o brofiad cyntaf babi yn y dŵr gydag oedolyn, i blant sy’n nofwyr medrus sydd â’r gallu llawn i barhau â gweithgareddau dyfrol am weddill eu hoes. Mae ganddo bedwar maes â brand pendant:

  • Sgiliau Hyder Sblash – Babanod a phlant bach – cyflwyniad i’r amgylchedd dyfrol a dŵr
  • Nofio Ysgol  – Nofio Ysgol Cyfnod Allweddol 2
  • Sgiliau Tonnau – Dysgu Nofio – dysgu a datblygu sgiliau symud a dyfrol sylfaenol
  • Sgiliau – Disgyblaethau Dyfrol – datblygu sgiliau penodol yn y disgyblaethau dyfrol; nofio, polo dŵr, plymio, nofio cydamserol a hunan-achub.
Sut mae ail-gofrestru’n gweithio?

Ar ôl cofrestru ar gwrs mae gennych flaenoriaeth i ailarchebu. Ar wythnos 11 neu 12, byddwch yn derbyn e-bost yn nodi pa ddosbarth rydych chi neu’ch plentyn wedi’i neilltuo ar ei gyfer. Bydd hefyd yn rhoi dyddiad cau i chi wneud unrhyw newidiadau a dyddiad cau ar gyfer talu. Os ydych yn talu erbyn y dyddiad hwn, mae eich lle chi/eich plentyn yn ddiogel. Mae llawer o gwsmeriaid yn talu cyn gynted ag y byddant yn derbyn yr e-bost gan fod y diwrnod cau yn eithriadol o brysur!

Beth sy’n digwydd os nad yw’r diwrnod/amser a neilltuwyd yn addas i mi?

Os nad yw’r amser/diwrnod a neilltuwyd yn addas, gofynnwn i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar waelod yr e-bost, erbyn y dyddiad cau a bennwyd, er mwyn gofyn am newid.  Byddwn yn cysylltu â chi pan allwn ddarparu ar gyfer hyn.  Os na allwn fodloni’ch cais, byddwn yn eich ffonio i drafod dewisiadau eraill.  Sylwch efallai y bydd hyn ar ôl y dyddiad cau ond bydd eich lle penodol yn ddiogel nes i ni gysylltu â chi.

Pam na allwch chi “gadw” fy lle?

Oherwydd y galw mawr am ein gwersi, mae terfyn amser llym iawn ar gyfer unrhyw addasiadau i’r archeb a thaliadau. Gallai methu â dilyn y dyddiadau hyn (a nodir yn eich e-bost) olygu eich bod yn colli eich lle.

Mae gennym dros 700 o gwsmeriaid yn ein rhaglen dysgu nofio i blant. Nid yw rhai cyrsiau yn ailgofrestru am amryw o resymau. Pe byddem yn addo pob lle heb daliad, ni fyddai llawer o gwsmeriaid yn gallu gwneud newidiadau ac ni fyddem yn gallu darparu ar gyfer brodyr a chwiorydd/cwsmeriaid newydd. Er mwyn bod yn deg â phawb mae’n rhaid i ni fod yn llym iawn gydag ail-gofrestriadau.

Mae gennych fanylion ein cerdyn credyd, felly beth am ddebydu’r cwrs nesaf yn awtomatig?

Yn anffodus, er ein bod yn cymryd manylion eich cerdyn pan fyddwch yn prynu, nid yw ein system archebu yn caniatáu i ni storio manylion y cerdyn.

Sut mae cwsmeriaid newydd yn cofrestru?

Dylai cwsmeriaid newydd gysylltu â thîm ein derbynfa er mwyn i ni weld a ellir eich rhoi ar y rhestr aros neu a oes angen asesiad arnoch. Bydd asesiad yn eich galluogi i gael eich rhoi ar y rhestr aros gywir gan ei bod yn anodd iawn gwneud newidiadau unwaith y bydd cwrs yn dechrau a gallai eich plentyn ddod i ddosbarth uwchben neu islaw ei allu heb gael un. Mae’n bwysig eich bod yn cadw gafael ar eich slip asesu. Unwaith y byddwch ar y rhestr aros, byddwch yn cael e-bost unwaith y bydd cwsmeriaid presennol wedi cael eu lle.

Pryd mae Nofiwr yn Ennill Dyfarniad?

Rhaid i fyfyriwr basio POB canlyniad ar gyfer y Cam Ton neu RLSS hwnnw cyn iddo ennill dyfarniad. RHAID cyflawni’r canlyniadau i safon a bennir gan y Corff Llywodraethu ar gyfer y cynllun addysgu. Rhoddir ffurflenni adroddiad disgyblion ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau ail-gofrestru yn ystod yr wythnos gyntaf a rhoddir tystysgrifau ar wythnos olaf y cwrs.

Pan fydd fy mhlentyn yn ennill dyfarniad ac yn symud i fyny, a fydd lle iddo neu iddi?

Bydd WNPS yn gwarantu lle i bob plentyn sydd eisoes yn y system, fodd bynnag, ni allwn warantu addasrwydd pob diwrnod, amser a chwrs a gynigir os yw eich plentyn yn symud i fyny.

Pa ddull cyfathrebu ydych chi’n ei ddefnyddio i roi gwybod i ni am newidiadau a gwybodaeth bwysig arall?

Trwy e-bost, Twitter, Facebook, Instagram, ein hysbysfyrddau, aelodau o staff, ac yn achlysurol iawn drwy lythyr.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf gyflwr meddygol?

Mae’n eithriadol o bwysig mewn amgylchedd pwll nofio i sicrhau eich bod yn ddiogel tra’n cael hwyl. Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich cyfranogiad neu ddiogelwch, yna mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i achubwr bywyd, neu os ydych yn mynychu sesiwn wedi’i staffio, i roi gwybod i’r hyfforddwr. Mae hyn ar gyfer ein holl sesiynau o Sblasio a Chwarae hyd at y cwrs hir mwy heriol Sesiwn Swim 4 Tri. Mae hefyd yn bwysig iawn rhoi gwybod i hyfforddwr os ydych yn mynychu unrhyw sesiwn ffitrwydd, os ydych yn feichiog gan y gall rhai ymarferion corff dyfrol fod yn niweidiol i feichiogrwydd.

Mae fy mhlentyn ar fin dechrau gwersi nofio, beth ddylwn i ei gofio?
  • Yn bwysicaf oll, peidiwch ag anghofio dweud wrthym a oes gan eich plentyn unrhyw gyflyrau meddygol neu anghenion addysgol arbennig. Mae bob amser yn ddefnyddiol cael hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth i’n helpu i ddarparu’r hyfforddiant gorau posibl i’ch plentyn.
  • Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a chlipio rhimyn hir yn ôl, mae hetiau nofio yn ddelfrydol.
  • Peidiwch â’u hanfon mewn bicini neu siorts llac – maent yn rhwystro eu cynnydd. Os oes angen dillad nofio priodol ar eich plentyn, mae gennym rai opsiynau hyfryd ar gael i’w prynu yn y Dderbynfa.
  • Ar ddiwedd pob gwers bydd eich athro/athrawes yn ymdrechu i roi adborth byr i chi. Os nad ydynt yn eich cyrraedd am unrhyw reswm, mae croeso i chi gysylltu â nhw os oes rhywbeth yr hoffech ei drafod.
  • Mae angen presenoldeb rheolaidd ar gyfer datblygiad da. Mae dysgu nofio yn wers ac fel pob gwers, mae ymarfer yn hanfodol – bydd amser yn y dŵr ar ôl ysgol neu ar benwythnosau yn help mawr.
  • Ar rai wythnosau bydd eich plentyn yn mynd i ddŵr dyfnach i gynorthwyo gyda’i ddatblygiad a’i herio rhyw fymryn. Efallai y bydd hyn yn frawychus i rai, ond peidiwch â phoeni am hyn, byddant yn cael y cymorth hynofedd priodol lle bo angen a byddwn yn gofalu amdanynt yn ofalus iawn.
  • Mae wythnos olaf y cwrs yn wythnos hwyliog, yn wobr am waith caled drwy gydol y cwrs. Er bod y sesiwn hon yn ymddangos yn llai strwythuredig, byddant yn dysgu sgiliau newydd fel symudiadau sylfaenol ar gyfer nofio cydamserol, polo dŵr bach a phlymio.
Cwestiynau Cyffredin Chwaraeon Abertawe
Fydd rhywun yn gallu dangos i mi sut i ddefnyddio’r cyfarpar?

Gallwch wylio ein fideo sefydlu yma neu gofynnwch i aelod o’r tîm ddangos i chi sut i ddefnyddio’r cyfarpar ar eich ymweliad nesaf.

Sut gallaf gadw lle mewn dosbarth?

Gallwch gadw lle yn ein holl ddosbarthiadau drwy Ap SBSP neu’r wefan. Mae mor syml â hynny!

Oes loceri gennych chi?

Mae gennym nifer cyfyngedig o loceri ar gael yn y coridorau o amgylch y campfeydd. Mae gennym hefyd dyllau colomennod yn y gampfa i storio bagiau a cotiau.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau’r loceri/tyllau colomennod ar ôl eu defnyddio.

Oes cyfleusterau newid gennych?

SBSP Singleton – Oes, mae gennym ni sawl cyfleuster newid yn y Ganolfan Chwaraeon. Mae’r rhain ar y llawr gwaelod, cyn coridor y cwrt sboncen (i ddynion) ac ar y chwith cyn y fynedfa i’r gampfa (i fenywod). Ar y llawr cyntaf, mae’r ystafelloedd newid ychydig heibio cyntedd y Ganolfan Chwaraeon, y drws cyntaf ar y chwith (i ddynion) a’r ail ddrws ar y chwith (i fenywod) ar hyd y balconi. Mae gennym ni gyfleusterau newid i bobl anabl ar y llawr gwaelod gyferbyn â’r lifft.

SBSP y Bae – Oes, mae gennym ni gyfleusterau newid yng Nghanolfan Chwaraeon y Bae. Mae’r rhain drwy’r drws cyntaf ar y dde heibio’r dderbynfa (i ddynion) a’r drws cyntaf ar y chwith gyferbyn â’r ffynnon dŵr (i fenywod).  Hefyd, mae gennym ni ddau doiled/ystafell newid i bobl anabl, un cyn y dderbynfa ac un yn yr ystafell gardio.

Hefyd, mae gennym ni gyfleusterau toiled/newid niwtral o ran rhyw yn ardaloedd Chwaraeon Abertawe SBSP Singleton/Bae.

Cofiwch sychu’r meinciau/ardal ar ôl eu defnyddio

Cwestiynau Cyffredin y Ganolfan Athletau a Hoci
Sut i gadw lle ar y trac dan do neu awyr agored?

Gallwch gadw lle ar yr ap neu drwy’r Porth Archebu. Rhaid i chi gadw lle ymlaen llaw i ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Os nad oes sesiwn ar gael, mae’n bosib bod rhywun arall wedi’i neilltuo. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’r tîm.

I neilltuo’r cyfleuster at eich defnydd chi yn unig, e-bostiwch y tîm yn ahc.sbsp@abertawe.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01792 602400.

Oes modd llogi cyfarpar?

Oes – mae’r holl gyfarpar i athletwyr ar gael i’w logi, ond rhaid i ddefnyddwyr dan 16 oed fod yng nghwmni hyfforddwr cymwysedig.

Oes cyfleusterau newid gennych?

Oes, mae cyfleusterau newid ar gael yn adeilad y trac dan do – gofynnwch i’r staff am fynediad.

Sut gallaf gadw lle ar y cae artiffisial?

Anfonwch ymholiadau am y cae artiffisial i ahc.sbsp@abertawe.ac.uk.

Ble gallaf barcio?

Mae gennym ddau faes parcio yn yr AHC, trowch i mewn oddi ar Heol y Mwmbwls a gyrrwch i fyny Lôn Fferm y Cwm – côd post SA2 9AU