Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, mae gennym amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
O gymryd rhan mewn cystadleuaeth i wersyll dros y gwyliau ysgol i gefnogi’r Fyddin Werdd a Gwyn yn Varsity. Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan!
Sylwer, mae’n bosib na fydd ein cyfleusterau ar gael ar adegau oherwydd y digwyddiadau hyn. Edrychwch ar ein calendr ar gyfer 2022 i weld beth sydd ar ddod a sut gallai effeithio ar eich ymweliadau.
- Calendr Digwyddiadau ar Ddod
-
Dyddiad Amser Lleoliad Cyfleusterau yr effeithir arnynt 18.06.22 Welsh Athletics Sprints Meeting Trac Awyr Agored a Mewnfaes Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 19.06.22 Hockey Wales Senior Women Cau Glaswellt Artiffisial 2 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 24.06.22 Pontarddulais Comprehensive School Sports Day Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 24/25/26.06/22 WHU O35s Home Nations Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 02.07.22 British Blind Sport Cau Glaswellt Artiffisial 2, Canolfan Hyfforddi Dan Do, Trac Awyr Agored a Cwrt Tennis 4 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 08.07.22 Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe Sports Day Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 09/10.07.22 WHU U23 Men and English O35 Training Camp Cau Glaswellt Artiffisial Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 09.07.22 WHU U23 Women Cau Glaswellt Artiffisial 1 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 15.07.22 Cynflig Sports Day Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 16/17.07.22 WHU Senior Men Commonwealth Camp Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 23/24.07.22 Hockey Wales Dragon Festival Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 30/31.07.22 Hockey Wales Dragon Festival Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 01.08.22 Sport Wales Para Festival Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 a Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 2/3/4.08.22 Hockey Camp Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 a Canolfan Hyfforddi Dan Do Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 04/05/06.08.22 British Triathalon Canolfan Hyfforddi Dan Do, Trac Awyr Agored a Y Sied Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 09/10/11.08.22 Startrack Camp Canolfan Hyfforddi Dan Do a Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 16/17/18.08.22 Hockey Camp Cau Glaswellt Artiffisial 1 a 2 a Canolfan Hyfforddi Dan Do Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 23/24/25.08.22 Startrack Camp Canolfan Hyfforddi Dan Do a Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd. 13.09.22 Adefraid Recovery Sports Day Trac Awyr Agored Mae lleoliad y gweithgaredd ar gau i’r cyhoedd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad chwaraeon gyda ni? Llogwch ein cyfleusterau!
Gydag ystod eang o gyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff i’w llogi ar draws dau gampws, yn sicr bydd gennym bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich digwyddiad chwaraeon. Mae ein tîm profiadol wedi gweithio gyda chyrff llywodraethu rhyngwladol a chenedlaethol i ddarparu popeth o logisteg y safle ar y diwrnod, rheoli prosiectau, arlwyo, marchnata / cyfathrebu, a rheoli llety ymhlith cyfrifoldebau eraill.
O logi cwrt neu gae, i archebu’r neuadd chwaraeon ar gyfer twrnamaint, neu gaeau chwarae ar gyfer diwrnod chwaraeon ysgol, gallwn helpu i ddod o hyd i’r cyfleuster cywir i chi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch a’n tim defnyddiol yma.
Digwyddiadau Chwaraeon
Mae ein cyfleusterau chwaraeon yn edrych dros bum milltir o draeth tywod ac ymysg y gorau yn ardal Bae Abertawe. Mae’r lleoliad hwn sy’n sicr o godi cenfigen, ynghyd â chyfleusterau gwych a’n cyfoeth o brofiad o drefnu a chefnogi digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon ar bob lefel wedi ein galluogi i gynnal digwyddiadau Ewropeaidd a rhyngwladol mawr.
Mae ein portffolio digwyddiadau chwaraeon hynod yn cynnwys Pencampwriaethau Ewropeaidd Athletau IPC, Pencampwriaethau Cyffwrdd Ewropeaidd FIT, a Phencampwriaeth y Byd Rygbi 7 Prifysgol FISU, i enwi rhai.