Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti;
Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Campfa Chwaraeon Abertawe, Canolfan Athletau a Hoci
Cyfeiriad:
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Lôn Sgeti
Abertawe
SA2 8QB
Sut i gyrraedd y lleoliad:
Wrth deithio i’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42 a dilynwch arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483 (Ffordd Fabian).
Wrth groesi Afon Tawe daw’r A483 yn A4067. Parhewch i’r gorllewin ar hyd y ffordd hon, gan basio Archfarchnad Sainsbury’s ar ochr chwith y ffordd. Ar ôl tua 2 filltir, trowch i’r dde ar Lôn Sgeti. Wrth deithio i fyny Lôn Sgeti (A4216), bydd caeau chwarae Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar eich llaw chwith. Wrth y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i’r cyfleusterau lle byddwch yn gweld maes parcio yn union o flaen y cyfleusterau.
Campfa Campws Chwaraeon Bae Abertawe
Mae Campfa Campws Chwaraeon Bae Abertawe wedi’i lleoli yng nghanol Campws Bae Prifysgol Abertawe.
Cyfeiriad:
Campws Bae Prifysgol Abertawe
Ffordd Fabian
Twyni Crymlyn
Abertawe
SA1 8EN
Sut i gyrraedd y lleoliad:
Wrth deithio i’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42 a dilynwch arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483 (Ffordd Fabian). Mae Campws y Bae wedi’i leoli ar ochr chwith Ffordd Fabian ac mae’r brif fynedfa’n cael ei rheoli gan oleuadau traffig. Mae Maes Parcio i Ymwelwyr yn union i’r chwith o’r brif fynedfa. Mae cyfleuster Parcio a Theithio mawr wedi’i leoli ar Ffordd Fabian, sy’n bellter byr o Gampws y Bae.