Croeso i Wythnos y Glas Prifysgol Abertawe 2025 – amser i archwilio, gwneud ffrindiau a mwynhau eich bywyd newydd fel myfyriwr i’r eithaf! Ochr yn ochr â stondinau cymdeithasau a digwyddiadau croeso, mae un lleoliad na ddylech ei golli: Parc Chwaraeon Bae Abertawe, calon Chwaraeon Abertawe a’ch porth i ffitrwydd a hwyl.

Bob mis Medi yn ein Ffair y Glas, mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn gosod stondin bywiog, fel arfer yn y Neuadd Chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Singleton. Yn y blynyddoedd diweddaraf, maen nhw wedi syfrdanu glasfyfyrwyr â gemau awyr agored, cystadlaethau codi pwysau, nwyddau am ddim megis capiau, bagiau a thocynnau i gemau’r Elyrch, a theithiau cyfeillgar o’r gampfa a’r stiwdios. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â’r tîm ac archwilio’r cyfleusterau â’th lygaid dy hun.

Gyda thros 50 o glybiau chwaraeon ar gael, o rygbi a hoci i sesiynau osgoi’r bêl a ioga, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae llawer o’r clybiau’n hyfforddi’n wythnosol ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, gan ei wneud yn ganolfan wych ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol.

Pam ymuno â Pharc Chwaraeon Bae Abertawe?

Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe’n cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf a chyfraddau cystadleuol i fyfyrwyr:

  • Pecyn y Gampfa a Dosbarthiadau (£16 y mis/ £45 am 3 mis / £164 y flwyddyn) gan gynnwys mynediad i  gampfeydd a dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae  
  • Neu’r pecyn Campfa a Nofio (£28.50 y mis / £82.50 am 3 mis / 300 y flwyddyn) am fynediad llawn i Bwll Cenedlaethol Cymru yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau campfa

Mae hynny’n werth gwych am eich arian, yn enwedig o’i gymharu â chyfraddau cyhoeddus neu gonsesiwn, ac mae myfyrwyr yn cael blaenoriaeth ar draws y ddau gampws.

Hefyd, nid yw’r parc chwaraeon ar gyfer ffitrwydd yn unig – mae’n hyb. Mae’r cyfleusterau safonol yn cynnwys y pwll Olympaidd 50m,  traciau athletau awyr agored a dan do, caeau rygbi, pêl-droed a hoci â llifoleuadau, cyrtiau sboncen a thenis, stiwdios troelli a mwy.

Beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos y Glas?

Gallwch ddisgwyl digwyddiadau Croeso’n Ôl ym mis Ionawr, pan gewch gyfle arall i alw heibio stondinau chwaraeon a chymdeithasau os nad oedd modd i chi ymweld â nhw ym mis Medi. Mae staff Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar gael i’ch helpu i gofrestru am aelodaeth yn y fan a’r lle ac i gynnig teithiau o’r cyfleusterau.

Yn y cyfamser, cynhelir y rhaglen Bod yn ACTIF drwy gydol y flwyddyn, gyda sesiynau grŵp am ddim neu am gost isel megis pêl-droed, badminton, ioga, saethyddiaeth, syrffio, a hyd yn oed cerdded ceunant neu deithiau cerdded Yosemite. Wedi’i dylunio i’ch helpu i gadw’n heini, gwneud ffrindiau ac archwilio de Cymru – mae’r rhaglen yn rhad a does dim angen unrhyw offer.

Ymunwch â’r gymuned

Rydych chi’n cael mwy na mynediad i’r gampfa wrth ddod yn aelod:

  • Byddwch yn cael eich croesawu i gymuned gefnogol o fyfyrwyr sy’n rhannu’r un nodau, p’un a ydych chi’n ddechreuwr neu eisoes yn actif. Mae dosbarthiadau ffitrwydd yn wych i gwrdd â phobl ac i  gadw’n frwdfrydig.
  • Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe’n cefnogi clybiau Cymdeithasol Chwaraeon Abertawe, digwyddiadau fel Varsity Cymru a chynghreiriau lleol sy’n dod â myfyrwyr ynghyd drwy chwaraeon, cystadlu a chyfeillgarwch.

P’un a ydych chi’n newydd i ffitrwydd neu’n mynychu’r gampfa’n rheolaidd, bydd dod yn rhan yn fuan yn eich helpu i ymgartrefu a theimlo llawn egni. Mae digwyddiadau Ffair y Glas a Chroeso’n Ôl yn gyfleoedd gwych i siarad â staff, cael taith o’r cyfleusterau a chofrestru yn y fan a’r lle. Gyda phrisiau sy’n gyfeillgar i fyfyrwyr, cynlluniau hyblyg a rhaglen lawn o ddosbarthiadau a gweithgareddau, dyma’r adeg orau i fod yn actif.

Peidiwch ag oedi – ymunwch â Pharc Chwaraeon Bae Abertawe heddiw a gorffen 2025 gydag egni, cymuned ac iechyd gwych. Ac wrth gwrs, mae croeso i chi ofyn os hoffech chi wybod mwy am ddosbarthiadau, oriau agor neu ymaelodi â chlybiau!