Ar ôl misoedd lawer o waith ymroddedig y tu ôl i’r llenni, rydym wrth ein boddau yn gallu rhannu’r newyddion y bydd Neuadd Chwaraeon Singleton yn ailagor yn swyddogol i’w defnyddio ddydd Llun, 9 Mawrth.
Mae’r prosiect adnewyddu wedi cyflawni gwelliannau sylweddol i’r gofod cyfan, gan sicrhau bod y neuadd yn diwallu anghenion defnyddwyr hamdden a thimau chwaraeon cystadleuol. Yn ogystal â gwella perfformiad a chysur, mae’r uwchraddiadau hyn hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd a hygyrchedd hirdymor‑. Mae’r ystod o uwchraddiadau hanfodol yn cynnwys:
- Amnewid To Llawn
- Gosod paneli acwstig
- Ffenestri a goleuadau LED newydd
- Systemau awyru gwell
- Gosod paneli solar
- Llawr pren newydd sbon gyda marciau cwrt Pêl-rwyd, Pêl-fasged, Futsal, Pêl-foli, Badminton a Phêl-bicl
- Pyst Pêl-rwyd a Phêl-foli newydd a systemau pyst soced newydd ar gyfer Pêl-rwyd, Pêl-foli a Badminton
- I ddilyn yn fuan:
– Cylchau pêl-fasged ychwanegol i hwyluso gemau neuadd lawn.
– Rhwydi Neuadd Chwaraeon Newydd
Mae’r gwelliannau hyn yn nodi un o’r buddsoddiadau mwyaf yn ein cyfleusterau chwaraeon dan do yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau bod ein haelodau’n mwynhau amgylchedd mwy disglair, mwy diogel a mwy cynaliadwy. Bydd y llawr pren newydd yn gwella amodau chwarae yn sylweddol i ddefnyddwyr hamdden a thimau cystadleuol.
Diolch o galon i’n holl aelodau, timau, a defnyddwyr y cyfleuster am eich amynedd a’ch cefnogaeth drwy gydol y cyfnod adnewyddu. Mae eich dealltwriaeth wedi ein helpu ni i gwblhau’r gwaith hanfodol hwn yn ddiogel ac yn effeithlon.
Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at eich croesawu chi nôl i weld y neuadd yn llawn bwrlwm unwaith eto.