Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd ac ymarfer corff drwy gydol y dydd. 

P’un a yw’n well gennych Ioga, Nofio, Pilates Ffitrwydd, Kettlecise, neu Sbin, mae gennym rywbeth i bawb. Evolve yw ein dosbarth ffitrwydd grŵp mewnol.

Mae ein holl ddosbarthiadau’n addas ar gyfer pob lefel o brofiad a ffitrwydd gan y bydd ein hyfforddwyr yn addasu’r ymarferion ar gyfer pob unigolyn, gan gynnig dewisiadau eraill pan fydd angen ac yn annog pawb i wthio eu hunain yn ôl eu gallu eu hunain.

Mae’r amserlen ddiweddaraf ar gael yma!

Evolve Unlimited

Cymysgedd o gardio a phwysau a bant â chi! Gallai’r dosbarth fod yn gylchedau traddodiadol i sesiynau nod grŵp, a hyd yn oed heriau tymhorol llawn hwyl! Byddwn yn gwrando ar unrhyw geisiadau neu syniadau ar gyfer y dosbarth oherwydd rydym yn hoffi cynnig mathau newydd o sesiynau hyfforddi i chi.

Evolve HIIT

Dosbarth HIIT yn seiliedig ar gardio gan ddefnyddio amrywiaeth o fformatau hyfforddi megis Sesiwn Ymarfer y Dydd, AMRAP (Cynifer o Rowndiau â Phosib) ac EMOM (Bob Munud ar y Funud). Sesiwn dwysedd uchel ar gyfer y corff cyfan i wella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd.

Evolve Beicio

Dosbarth beicio dan do sy’n canolbwyntio ar wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd, cryfder yn rhan isaf y corff a gwydnwch. Mae’r dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau beicio gan gynnwys reidio ar gyflymder sefydlog, dringo bryniau a sbrintio. Llai heriol.

Dosbarth Barbwysau Evolve

Sesiwn ymarfer corff cyfan sy’n cynnwys barbwysau a phwysau tegell yn y stiwdio. Mae’r dosbarth hwn ar gael i’r rhai sy’n fwy newydd i hyfforddiant ymwrthiant ond yn dal am herio eu hunain a defnyddio ychydig o bwysau. Unwaith rydych chi’n meithrin  hyder yn y dosbarth hwn gallwch symud ymlaen i Gryfder a HIIT!

Evolve Cryfder a HIIT

Dosbarth cyfunol sy’n cynnwys codi pwysau gyda barbwysau Olympaidd ac ymarferion ymwrthiant eraill ac i orffen, adran HIIT gyflym i godi eich cyfraddau curiad y galon!

Evolve Craidd

Mae’r dosbarth hwn yn seiliedig ar gryfhau cyhyrau craidd drwy ymarferion abdomenol traddodiadol a ffyrdd mwy gweithredol. Dim ond 30 munud yw’r dosbarth hwn a bydd yn ategu dosbarthiadau eraill yr hoffech eu gwneud!

HYROX

Dosbarth ffitrwydd sy’n seiliedig ar y gystadleuaeth ffitrwydd hynod lwyddiannus sy’n cynnwys symudiadau gweithredol megis rhagwthion a pheli wal gyda gwydnwch cardiofasgwlaidd a rhedeg. Mae’r ysbeidiau ychydig yn hwy er mwyn gwella gwydnwch ac efelychu amodau rasio.

Evolve Beicio HIIT

Dosbarth beicio dan do cyflym, dwysedd uchel sy’n mwyafu llosgi calorïau a ffitrwydd cardiofasgwlaidd mewn cyfnod byr o amser.  Yn berffaith ar gyfer sesiwn gardio amser cinio!

Evolve Bŵtcamp

Sesiwn ar gyfer y corff cyfan sy’n llawn egni i wella cryfder, gwydnwch a ffitrwydd cardiofasgwlaidd. Wedi’i ysbrydoli gan hyfforddiant milwrol, mae’r dosbarth hwn yn cyfuno cymysgedd o gardio, cryfder ac ymarferion gweithredol sy’n cael eu perfformio’n gyflym.

Zumba

Mae ein dosbarth Zumba’n sesiwn egni uchel ac yn gwneud i chi deimlo’n dda sy’n cyfuno cerddoriaeth Ladin â symudiadau dawns hawdd eu dilyn o bob cwr o’r byd. Mae’r dosbarth yn cyfuno cardio, rhythm a hwyl i’ch helpu i losgi calorïau, rhoi hwb i’ch hwyliau a chadw’n actif heb iddo deimlo fel sesiwn ymarfer corff.

Symud Drwy’r Menopos

Ymunwch â’n dosbarth ymarfer corff Symud Drwy’r Menopos  – profiad ffitrwydd cyfeillgar ac ysgogol sydd wedi’i ddylunio’n benodol i’r rhai hynny sy’n profi’r perimenopos,   y menopos a’r tu hwnt. Cymysgedd o gryfder, cardio, symudedd, cydbwysedd ac ymlacio.

Coesau, Penolau a Boliau

Dosbarth ffitrwydd llai heriol sy’n tynhau ac yn cryfhau rhan isaf y corff a’r craidd. Mae’r dosbarth hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y cluniau, y ffolennau a chyhyrau’r stumog drwy amrywiaeth o ymarferion a ailadroddir ac a reolir.

Pilates

Dosbarth ymarfer corff llai heriol sy’n canolbwyntio ar feithrin cryfder, sefydlogrwydd a hyblygrwydd drwy symudiadau manwl gywir a reolir. Cryfhau cyhyrau’r craidd a rhan isaf y cefn yw prif nod y sesiwn ond mae hefyd yn gweithio’r corff cyfan.

Ioga

Ymarfer symudiadau ymwybyddol ofalgar sy’n cyfuno ystumiau corfforol ag ymarferion anadlu a reolir gydag elfennau o ymlacio. Nod y dosbarthiadau yw gwella hyblygrwydd, cryfder a chydbwysedd wrth annog ymdeimlad o lonyddwch a hunanymwybyddiaeth.

Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o ddosbarthiadau dŵr, mae’r holl opsiynau ar gael yma.

Mae’r holl ddosbarthiadau wedi’u cynnwys yn rhan o’ch aelodaeth. Ddim yn aelod ond hoffech chi roi cynnig ar ddosbarthiadau? Beth am gofrestru fel aelod talu wrth fynd?

Yn barod i archebu? Cliciwch yma

Hefyd gweler