Rydym ni mor falch dy fod wedi ymaelodi! Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi trosolwg o’r gampfa i ti, yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn dy aelodaeth, a’r hyn i’w ddisgwyl pan fyddi di ar y safle. Os wyt ti’n dod i’r gampfa am y tro cyntaf neu’n brofiadol yno, rydym ni’n annog pob aelod i ddarllen hyn a gwylio ein fideo er mwyn sicrhau dy fod di a phobl eraill yn ddiogel yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (SBSP).

Am dy aelodaeth

Gan ddibynnu ar dy aelodaeth, byddi di naill ai’n cael mynediad i’r gampfa yn unig (mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau hefyd!) neu i’r gampfa a’r pwll. Mae’r ddau fath o aelodaeth yn cynnwys mynediad at ddau safle, er mwyn i ti gael defnyddio campfa Singleton Chwaraeon Abertawe a champfa’r Bae Chwaraeon Abertawe…mae hyn yn berffaith os wyt ti’n byw ger un gampfa ac yn gweithio ger y llall. Lawrlwytha Ap SBSP drwy’r App Store neu’r Play Store er mwyn i ti gadw lle mewn sesiynau, 7 niwrnod ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth am dy ymweliad cyntaf i SBPS, cer i’n postiad croeso yma.

Gweithdrefnau Covid

Rydym ni’n gofyn i ti ddilyn yr holl weithdrefnau diogelwch sydd ar waith o ran Covid, wrth i ti symud o gwmpas SBSP. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Gwisgo gorchudd wyneb pan fyddi di yn y cyfleusterau. Nid oes angen gwisgo’r rhain wrth ymarfer corff.
• Cadw pellter cymdeithasol. Rydym ni’n gofyn i ti gadw 2 fetr ar wahân i bobl eraill pan fo’n bosibl.
• Golchi dy ddwylo’n rheolaidd neu ddefnyddio diheintydd dwylo sydd ar gael gennym o gwmpas y safle.
• Dilyn y systemau unffordd rydym ni wedi’u rhoi ar waith.

Paid â dod i mewn i’n cyfleusterau os oes gennyt symptomau Covid-19 neu wedi cael symptomau yn ystod y 10 niwrnod diwethaf. Am ragor o wybodaeth a’n gweithdrefnau, darllena ein Harweiniad ynghylch Covid-19.

Argyfyngau

Yn anaml iawn, bydd larwm tân yn canu; os felly, rydym ni’n gofyn i bob aelod adael yr adeilad drwy’r allanfa agosaf. Cer i’r mannau ymgynnull sy’n dibynnu ar y gampfa rwyt ti’n ei defnyddio:

• Campfa’r Bae Chwaraeon Abertawe: Lleolir y man ymgynnull gyferbyn â The Core, lle ceir arwydd “Man Ymgynnull 6”

• Campfa Singleton Chwaraeon Abertawe: Lleolir y man ymgynnull rhwng y cylchfan a’r atalfa yn y prif faes parcio, lle ceir arwydd gwyrdd “Man Ymgynnull 1”

Bydd staff ar gael i roi cymorth os bydd ei angen arnat. Os oes angen cymorth cyntaf arnat, cer at aelod o’r tîm a fydd yn gallu rhoi cymorth i ti.

Cyfleusterau ar y safle

Bydd gennym orsafoedd dŵr sydd ar gael yng Nghampfa’r Bae Chwaraeon Abertawe ac yng Nghampfa Singleton Chwaraeon Abertawe, ac rydym ni’n gofyn i ti ddod â dy boteli dy hun. Ar hyn o bryd, mae’r ystafelloedd newid ar gau ond mae gennym doiledau sydd ar gael i ti eu defnyddio.

Arfer Gorau a Rheolau’r Gampfa

• Glanhau’r holl gyfarpar cyn eu defnyddio ac ar ôl gorffen. Mae gennym nwyddau glanhau o gwmpas y campfeydd i ti eu defnyddio. Byddwn ni’n glanhau’r gampfa rhwng sesiynau hefyd.
• Cadwa 2 fetr i ffwrdd o bobl eraill wrth ymarfer corff.
• Hyffordda ar dy ben dy hun pan fo’n bosibl.
• Gwna’n siŵr nad wyt ti’n treulio gormod o amser ar y cyfarpar poblogaidd, er mwyn i bobl eraill gael ei ddefnyddio yn ystod y sesiynau.
• Symuda’r holl bwysau o’r barrau a’r peiriannau a’u dychwelyd i’r mannau lle dest ti o hyd iddynt.
• Dilyna’r system unffordd o gwmpas y gampfa a phan fyddi di’n dod i mewn ac yn gadael hefyd.
• Gwisga ddillad priodol wrth ddod i’r gampfa. Nid ydym ni’n caniatáu denim na fflip-fflops o dan unrhyw amgylchiadau.
• Cei di dynnu dy esgidiau dim ond wrth i ti godi pwysau. Paid â cherdded o gwmpas y gampfa os nad wyt ti’n gwisgo esgidiau.
• Defnyddia sialc ar blatfformau yn unig, a gwna’n siŵr dy fod yn glanhau ar ôl dy hunan.
• Os wyt ti am ffilmio dy hunan wrth hyfforddi, dy gyfrifoldeb di yw gwneud yn siŵr nad oes neb arall mewn golwg. Os nad yw hyn yn bosibl, gofynna am ganiatâd y rhai sydd o gwmpas, neu paid â ffilmio o gwbl.
• Mae gennym sesiynau ag amserau sefydlog, er mwyn galluogi ein tîm i lanhau’r gampfa. Dylet ti gyrraedd dim ond 5 munud cyn yr amser rwyt ti wedi’i drefnu, a gadael yn brydlon ar y diwedd.

Cyfarpar

Mae gennym amrywiaeth o gyfarpar yng Nghampfa Singleton Chwaraeon Abertawe ac yng Nghampfa’r Bae Chwaraeon Abertawe, sy’n golygu bod rhywbeth i bawb ac i bob sesiwn hyfforddi.
Os nad wyt ti’n siŵr sut i ddefnyddio cyfarpar, gofynna i aelod o staff er mwyn sicrhau dy fod yn ei ddefnyddio’n briodol ac yn ddiogel.

Diolch yn fawr!

Felly, dylet ti fod yn teimlo’n barod nawr i fynd i dy sesiwn gyntaf mewn un o gampfeydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe. Os byddi di’n ansicr o gwbl, neu os oes gennyt gwestiwn, siarada ag aelod o’r tîm a fydd yn gallu rhoi cymorth i ti. Fel arall, e-bostia ni yn gym.sbsp@swansea.ac.uk gyda dy ymholiadau neu dy adborth.

Fe welwn ni ti yn dy sesiwn nesaf!

Hefyd gweler