Yn aml iawn, mae pobl yn gofyn i ni ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe (SBSP) pa gyfleusterau iechyd a ffitrwydd sydd ar Gampws y Bae? Ydych chi wir yn meddwl y byddem ni’n eu gadael hebddynt? Wrth gwrs ddim! Mae gennym ni amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael i aelodau SBSP a’r gymuned leol. Rydym ni’n mynd i drafod y cyfleusterau sydd gennym ar y campws yn y blog hwn ond os ydych chi am eu gweld â’ch llygaid eich hun, cadwch lygad barcud ar y cyfryngau cymdeithasol am fanylion ein diwrnod agored nesaf neu cysylltwch â nhw i ofyn am daith dywys gyflym.

Ddim yn siŵr sut i gyrraedd Campws y Bae? Gallwch deithio yn y car a defnyddio un o’r meysydd parcio talu ac arddangos sydd ar gael, neu gallwch fynd yno ar y bws hefyd – mae gwasanaethau 8, 9 a 10 First Cymru yn teithio rhwng y ddau gampws felly neidiwch ar un o’r rhain!

Felly, y manylion. Mae cyfleusterau Campws y Bae yn cynnwys:

Campfa’r Bae Chwaraeon Abertawe

Mae’r campfeydd yn adeilad Talacharn, felly maent mewn lleoliad delfrydol, rhwng y neuaddau preswyl. Yn ogystal â bod yn berffaith i’r myfyrwyr sy’n byw ar y campws, mae hefyd yn daith gerdded fer o’r ddau faes parcio sydd ar gael. Os nad ydych chi’n siŵr o hyd ble mae hyn, mae gyferbyn â’r golchdy!

Mae campfa Chwaraeon Bae Abertawe wedi’i rhannu’n ddwy ran; mae un yn canolbwyntio’n fwy ar hyfforddiant cryfder gydag amrywiaeth o bwysau rhydd ar gael ac mae’r ail ran yn cynnig amrywiaeth o beiriannau cardio a phwysau. Mae gennym ni bopeth sydd ei angen arnoch am sesiwn effeithiol yn y gampfa, gan gynnwys lle i ymestyn.

Dosbarthiadau Evolve

Wyddech chi fod ein dosbarthiadau Evolve wedi dechrau ar Gampws y Bae? Maent mor llwyddiannus, rydym ni wedi penderfynu eu cynnig ar ein safle yn Singleton hefyd.

Mae gennym ni ddosbarthiadau gwahanol drwy gydol yr wythnos, gan gynnig cyfleoedd i chi hyfforddi mewn ffyrdd gwahanol. Felly, p’un ai sesiwn gryfder neu sesiwn gardio ddwys sy’n well gennych, mae rhywbeth i chi. Mae’r amserlen bresennol ar gyfer campfeydd y Bae a Singleton ar gael yma.

Neuadd Chwaraeon Chwaraeon Abertawe

Gellir defnyddio ein neuadd chwaraeon ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a gellir ei chadw ar y porth archebu ar-lein neu drwy ap SBSP. Mae’r lle yn cynnig opsiynau hyfforddi dan do i dimoedd chwaraeon, yn ogystal â lle i chwarae chwaraeon fel pêl-fasged, badminton a thennis bwrdd.

MUGAs

Hefyd, mae MUGAs sy’n edrych dros y traeth ar gael i’w defnyddio ar Gampws y Bae. “Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd” yw MUGAs sy’n ddelfrydol ar gyfer chwarae pêl-droed, rygbi a chwaraeon pêl hamdden eraill . Gellir neilltuo’r rhain i’w defnyddio, felly os ydych chi’n chwilio am le newydd i hyfforddi gyda’ch tîm chwaraeon chi, neu os ydych chi am le i gael gêm fach anffurfiol, cysylltwch â’r tîm i gael gwybod pan fydd lle ar gael.

Gobeithio bod hyn yn rhoi syniad gwell i chi o’r cyfleusterau Chwaraeon sydd ar gael ar Gampws y Bae. Y peth gorau, fel gyda’n holl gyfleusterau, yw nad ydyn nhw ar gyfer myfyrwyr yn unig. Mae croeso i bawb ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, p’un a ydych chi’n gyn-fyfyriwr neu’n aelod o’r gymuned leol. Os hoffech chi ymweld â’n cyfleusterau, cysylltwch ag aelod o’r tîm heddiw i drefnu taith dywys – byddem ni wrth ein boddau yn eu cyflwyno i chi! Yn ystyried bod yn aelod? Edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth. Mae rhywbeth at ddant pawb!