Rydym yn cynnal cwrs Pilates chwe wythnos arbenigol sy’n dechrau ar 29 Ebrill 2024 i’ch paratoi chi a’ch corff.

Mae Pilates i Redwyr yn gwrs Pilates arbenigol sy’n para 6 wythnos (a ddyluniwyd gan Sefydliad Ffisiotherapi a Pilates Awstralia) sy’n canolbwyntio ar dair elfen hanfodol – Osgo, Cryfder ac Ystwythder. Bydd y cwrs 6 wythnos yn canolbwyntio ar wella cydbwysedd a rheoli osgo, gwella rheoli craidd a chryfder craidd, gwella ystwythder, gwrthsefyll blinder, lleihau’r risg o gael anaf wrth redeg a hyrwyddo adfer ar ôl rhedeg. Mae’r cwrs Pilates arbenigol hwn yn addas ar gyfer rhedwyr er hamdden sy’n dymuno gwella eu harddull rhedeg, eu cryfder craidd a’u gallu i reoli eu hosgo, i redwyr mwy profiadol sy’n dymuno lleihau’r risg o gael anaf ac sydd am gael cymorth i adfer dros bellteroedd gwytnwch hirach.

Cwrs yw hwn yn hytrach na dosbarth, felly codir tâl ychwanegol ar ben eich aelodaeth o’r gampfa. Does dim  angen i chi fod yn aelod i gymryd rhan yn y cwrs ond byddai’n rhaid i chi gofrestru fel defnyddiwr Talu Wrth Fynd. Bydd pob sesiwn yn datblygu dros y cyfnod chwe wythnos hwn.

Cost: £40.00 y cwrs
Aelod Cost: £30.00

Dyddiad dechrau:  29/04/2024

Amserlen: Nosweithiau Llun, 18:30 tan 19:45

Manylion cyswllt am ymholiadau: c.l.matthews@swansea.ac.uk