Gall dechrau ar daith ffitrwydd newydd deimlo braidd yn arswydus, yn enwedig pan ddaw at hyfforddiant cryfder. Ond peidiwch â phoeni! Does dim angen i chi fod yn hynod frwdfrydig am adeiladu eich cyhyrau na mynychu’r gampfa’n rheolaidd er mwyn i hyfforddiant cryfder fod o fudd i chi. Mae hyfforddiant cryfder yn addas i bawb, ac yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, rydym yma i’ch helpu i gymryd y camau cyntaf yn hyderus.
P’un a ydych chi’n rhoi cynnig ar hyfforddiant cryfder am y tro cyntaf neu eisiau ychwanegu rhywbeth ychwanegol at eich trefn arferol, bydd y canllaw hwn yn symleiddio’r camau ac yn eich helpu chi i ddatblygu eich cryfder mewn ffordd effeithiol.
Pam mae hyfforddiant cryfder yn bwysig
Mae hyfforddiant cryfder, a elwir hefyd yn hyfforddiant ymwrthiant, yn cynnwys ymarferion sy’n gwella cryfder a dygnwch cyhyrau. Gall hyn olygu defnyddio pwysau, bandiau ymwrthiant, peiriannau, neu hyd yn oed bwysau’r corff.
Dyma pam mae ychwanegu hyfforddiant cryfder at eich trefn arferol yn drawsnewidiol:
- Adeiladu cyhyrau a llosgi braster: Mae mwy o gyhyrau yn helpu’ch corff i losgi mwy o galorïau, hyd yn oed pan fyddwch chi’n gorffwys.
- Cefnogi iechyd esgyrn: Mae hyn yn enwedig o bwysig wrth i ni heneiddio.
- Gwella ystum y corff a chydbwysedd: Mae’n lleihau’r risg o anaf ac yn rhoi hwb i’ch hyder.
- Gwella iechyd meddwl: Gall sesiynau hyfforddiant cryfder rheolaidd leihau straen a gwella’ch hwyliau.
Sut i ddechrau arni
Os ydych chi’n ddechreuwr, y pethau pwysig yw bod yn gyson a pheidio â bod yn rhy uchelgeisiol ar y dechrau. Dyma rai camau hawdd i’ch helpu i ddatblygu eich cryfder yn ddiogel ac yn effeithiol:
1. Dechreuwch gydag ymarferion pwysau’r corff
Does dim angen offer arnoch ar y cychwyn cyntaf. Mae ymarferion pwysau’r corff yn berffaith ar gyfer dechreuwyr ac maen nhw’n eich helpu i ddysgu beth yw ffurf dda.
Rhowch gynnig ar:
- Gyrcydiadau
- Gwasgau byrfraich (Dechreuwch ar eich pengliniau os bydd angen)
- Rhagwthion
- Planciau
- Pontydd Cyhyrau’r Ffolennau
Ceisiwch anelu at 2-3 set gan ailadrodd yr ymarferion hyn 8-12 o weithiau, 2-3 gwaith yr wythnos.
2. Ychwanegwch ymwrthiant yn raddol
Pan fyddwch chi’n gyfforddus gyda symudiadau pwysau’r corff, dechreuwch ychwanegu ymwrthiant. Gall hyn gynnwys:
- Dymbelau
- Bandiau ymwrthiant
- Pwysau Tegell
- Peiriannau ceblau (sydd ar gael yn ein campfa)
Dechreuwch â phwysau ysgafn, mae ffurf dda yn bwysicach na chodi pwysau trwm!
3. Trefnwch ddiwrnodau gorffwys
Mae cyhyrau’n adeiladu ac yn atgyweirio pan fyddwch yn gorffwys. Ceisiwch osgoi hyfforddiant cryfder ar gyfer yr un grŵp o gyhyrau ddau ddiwrnod yn olynol. Efallai y bydd cynllun wythnosol cytbwys yn cynnwys:
- Dydd Llun: Hyfforddiant cryfder ar gyfer y corff cyfan
- Dydd Mercher: Cardio neu orffwys
- Dydd Gwener: Hyfforddiant cryfder ar gyfer rhan uchaf y corff
- Dydd Sul: Hyfforddiant cryfder rhan isaf y corff neu ymadfer gweithredol (megis nofio neu ddosbarth ymestyn)
Defnyddio’r Cyfleusterau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe
Mae pob peth sydd ei angen arnoch i gychwyn arni ar gael yn ein campfa ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe – o bwysau amrywiol a pheiriannau ymwrthiant i leoedd ar gyfer hyfforddiant swyddogaethol.
Os ydych chi’n ansicr ynghylch lle i ddechrau, gofynnwch i aelod o’n tîm ffitrwydd. Maen nhw’n gyfeillgar, yn brofiadol a bob tro’n hapus i helpu. Gallwch hyd yn oed drefnu sesiwn sefydlu yn y gampfa er mwyn dysgu sut i ddefnyddio’r offer ac er mwyn cael cynllun wedi’i bersonoli ar eich cyfer.
Dosbarthiadau Cryfder mewn Grŵp
Oes yn well gennych chi ymarfer corff mewn ffordd gymdeithasol? Rhowch gynnig ar un o’n dosbarthiadau grŵp! Mae’r rhain yn berffaith ar gyfer dechreuwyr sydd eisiau arweiniad mewn amgylchedd cymhellol. Cadwch lygad am:
- Les Mills BODYPUMP – Dosbarth sy’n seiliedig ar ddefnyddio barbwysau er mwyn adeiladu cryfder a dygnwch.
- Cryfder a Chyflyru – Cyflwyniad gwych i hyfforddiant ymwrthiant strwythuredig.
- Hyfforddiant Cylchol – Mae’n cynnwys cymysgedd o hyfforddiant cryfder a chardio er mwyn sicrhau ymarfer corff ar gyfer y corff cyfan.
Mae ein hamserlen yn cynnig opsiynau amrywiol drwy gydol yr wythnos – gan gynnwys sesiynau yn gynnar yn y bore, amser cinio, neu gyda’r hwyr.
Awgrymiadau Gwych ar gyfer Dechreuwyr
- Cynheswch a dadgynheswch: Bydd ychydig funudau o gardio ysgafn ac ymestyn yn paratoi eich corff ac yn lleihau poen yn y cyhyrau.
- Canolbwyntiwch ar eich ffurf: Cofiwch ofyn os ydych chi’n ansicr – mae ein tîm yma i’ch helpu i osgoi anaf ac i wneud y mwyaf o’ch ymarfer corff.
- Byddwch yn amyneddgar: Mae cryfder yn adeiladu dros amser. Dathlwch y llwyddiannau bychain a daliwch ati.
- Bwytewch yn gall: Mae deiet cytbwys gyda digon o brotein, carbohydradau a brasterau iach yn cefnogi adferiad a chynnydd.
- Olrhain eich cynnydd: Cadwch gofnod syml o beth rydych chi wedi’i wneud ym mhob sesiwn – byddwch chi’n synnu wrth weld eich cynnydd mewn ychydig wythnosau.
Ymunwch â’n cymuned
Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, rydyn ni’n credu y dylai ffitrwydd fod yn hwyl, yn gefnogol ac yn agored i bawb. P’un a ydych chi’n fyfyriwr, yn aelod o staff, neu’n breswylydd lleol, mae lle i chi yma.
Os ydych chi’n barod i ddechrau ar eich taith hyfforddiant cryfder, galwch heibio am daith o gwmpas y gampfa neu edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth. Gyda staff cyfeillgar, cyfleusterau gwych a chymuned groesawgar, byddwch chi’n teimlo’n gartrefol iawn yma.
Ydych chi’n barod i gryfhau, symud yn well a theimlo’n fwy hyderus?
Rhowch gynnig ar hyfforddiant cryfder – a rhowch wybod i ni sut y gallwn ni eich cefnogi chi ar hyd y ffordd.
Dilynwch ni ar Instagram and Facebook ar gyfer argymhellion hyfforddiant, diweddariadau ar ddosbarthiadau, ac ysbrydoliaeth gan ein cymuned.