Cadw eich lefelau gweithgarwch yn uchel yw’r ffordd orau o leihau effeithiau calorïau gormodol o’r bwyd a’r diodydd alcoholig ychwanegol a geir dros gyfnod y Nadolig. Bydd ystyried eich gweithgarwch dyddiol yn eich helpu chi i deimlo’n barod i ddechrau’r flwyddyn newydd a chadw’r arferion rydych chi eisoes wedi’u creu.
Ceisiwch fod mor actif â phosib, hyd yn oed pan fydd y gampfa ar gau. Cofiwch fod 24 awr mewn diwrnod ac os ydych chi’n treulio 8 awr yn cysgu, bydd gennych chi 16 awr i gynnwys gweithgarwch corfforol. Mae pawb yn gwybod pa mor rhwydd yw hi i eistedd o flaen y teledu a gwylio cyfres ar ôl cyfres yn ystod cyfnod ymlaciol y Nadolig!
Dyma fy awgrymiadau i ar sut i gynyddu lefelau gweithgarwch dyddiol:
- Gosodwch darged dyddiol ar gyfer camau drwy ddefnyddio olrheinydd ffitrwydd neu ddyfais symudol. Anelwch at rywbeth sy’n realistig er mwyn osgoi rhoi gormod o bwysau arnoch chi’ch hun i’w gwblhau.
- Cynlluniwch weithgaredd dyddiol rydych chi’n ei fwynhau, fel cicio pêl yn y parc gyda’ch teulu, mynd am dro amser cinio neu fynd am dro ar y beic.
- Parciwch y car ymhellach i ffwrdd o’r fynedfa wrth siopa. Bydd hynny’n cyfrif tuag at nifer y camau!
- Defnyddiwch y grisiau yn hytrach na’r grisiau symudol neu’r lifft… Rwy’n addo, bydd pethau’n haws po fwyaf y byddwch chi’n ei wneud!
- Gosodwch larwm, hyd yn oed os yw’n 2 awr ar ôl eich larwm arferol. Bydd hyn yn helpu i gynnal rhywfaint o drefn gysgu a sicrhau y gallwch chi wneud y gorau o’ch diwrnod o’ch blaen.
- Gosodwch restrau dyddiol i’ch annog chi i gadw’n heini ac yn barod i gwblhau tasgau dyddiol, e.e. golchi, smwddio etc.
- Ceisiwch roi trefn ar yr ardd neu wneud gwaith trwsio os oes angen. Mae hon yn ffordd wych o dicio rhywbeth ar y rhestr o bethau i’w gwneud sydd o hyd yn tyfu, yn ogystal â chadw’n actif.
- Golchwch y car eich hun (yn dibynnu ar y tywydd wrth gwrs!)
Beth am roi cynnig ar rai o’n Hymarferion Nadoligaidd? Dysgwch fwy yma.