Trwy gydol misoedd yr haf rydym yn lleihau pris ein sesiynau Talu Wrth Fynd i £2.50 y sesiwn*. Bydd y cynnig hwn hefyd ar gael ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ar gyfer sesiynau Swim 4 Tri, Ffitrwydd i Oedolion, Acwa Ymarfer, Zumba yn y pwll a Nofio Teuluol.
Nawr gallwch fynd i’r gampfa, mynd i nofio yn y pwll 50 metr, ymuno â dosbarth ffitrwydd neu chwarae gêm o dennis am £2.50 fesul ymweliad.

Mae sesiynau talu wrth fynd yn berffaith i’r rhai hynny fyddai’n hoffi ymweld â’n campfa heb ymrwymo i aelodaeth fisol. Fel arfer, pris y sesiynau hyn yw £6.00, felly manteisiwch ar y pris arbennig a threfnwch sesiynau ym mis Gorffennaf a mis Awst!

Cliciwch yma i gofrestru fel aelod Talu wrth Fynd. Peidiwch â phoeni, fydd dim taliad yn cael ei dynnu tan i sesiwn gael ei threfnu.

*Yn amodol ar delerau ac amodau. Cynnig yn dod i ben 31 Awst 2026. Nid yw’n cynnwys dosbarthiadau codi pwysau i fenywod neu’r dosbarth symud drwy’r menopos.Nid yw sesiynau nofio rheolaidd yn cael eu cynnwys yn y cynnig hwn.