Wrth i’r gwaith adeiladu’r National Institute for Sport & Health fynd yn ei flaen, mae drwg gennym roi gwybod i aelodau y bydd nifer y lleoedd parcio ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn cael ei leihau ymhellach yn fuan, er mwyn gwneud lle ar gyfer ardal storio deunyddiau, fel y dangosir isod. Er y gallai fod cyfleoedd i leihau maint y safleoedd gwaith wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, disgwylir y byddant i raddau helaeth yn aros yn eu lle tan haf 2027.
Mewn ymdrech i leihau tarfu yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer o opsiynau parcio amgen wedi’u darparu ar gyfer cwsmeriaid Parc Chwaraeon Bae Abertawe.
Mae lle parcio ychwanegol ar gael o hyd ym maes parcio staff Ysbyty Singleton:
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 4:00pm–11:00pm
- Dydd Sadwrn a dydd Sul: 8:30am–6:30pm
Er mwyn lliniaru’r gostyngiad pellach mewn lleoedd parcio yn y Pwll Cenedlaethol Cymru:
- Bydd lle parcio ychwanegol ar gael yn ystod y dydd ym meysydd parcio Meysydd Chwarae Brenin Siôr V, y gellir eu cyrchu drwy’r iard wasanaeth yng nghefn Pwll Cenedlaethol Cymru.
- Bydd system ‘talu ac arddangos’ yn cael ei chyflwyno’n fuan yn y ddau faes parcio yn Feysydd Chwarae Brenin Siôr V, a bydd yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:00am a 3:30pm.
- Bydd cwsmeriaid Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn parhau i elwa ar gyfraddau parcio ffafriol ar draws holl feysydd parcio’r Parc Chwaraeon drwy dalu yn nerbynfa Pwll Cenedlaethol Cymru (nid oes angen dychwelyd i’ch cerbyd i arddangos tocyn).
- Bydd tanysgrifiadau parcio misol a blynyddol presennol ar gyfer Parc Chwaraeon Bae Abertawe hefyd yn ddilys yn y ddau faes parcio yn Feysydd Chwarae Brenin Siôr V.
Mae cyflwyno system ‘talu ac arddangos’ yn Meysydd Chwarae Brenin Siôr V wedi’i fwriadu i ddiogelu lleoedd parcio ar gyfer cwsmeriaid Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn ystod oriau swyddfa.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch e-bost at: campusdevelopment@swansea.ac.uk
