Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a Chanolfan Chwaraeon y Bae, rydym yn:

  • gofyn i gwsmeriaid ac aelodau beidio â dod i’r cyfleusterau os byddant yn cael prawf positif am Covid-19, gan ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru.  
  • argymell y dylai pobl barhau i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob cyfleuster dan do pan na fyddant yn hyfforddi/cyfranogi mewn gweithgareddau 
  • gofyn i aelodau barhau i ddiheintio cyfarpar ar ôl ei ddefnyddio 
  • gofyn i gwsmeriaid ac aelodau barhau i barchu gofod personol pobl eraill.  

O’n rhan ni, byddwn yn:  

  • sicrhau bod cyflenwadau hylif diheintio dwylo’n dal i fod ar gael ym mhob cyfleuster.
  • parhau i gynnal gweithdrefnau glanhau gwell.
  • sicrhau bod asesiadau risg Covid-19 yn dal i gael eu cynnal ac yn parhau i gael eu dilyn.