Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ddelfrydol, p’un a ydych yn athletwr elitaidd mewn hyfforddiant neu ddim ond eisiau aros yn heini – neu ddod yn heini.

Gyda’n dau leoliad ar draws y ddinas, mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn lleol i bawb.

Rydym yn darparu cyfleoedd i brofi hyd at derfyn eich gallu neu roi cynnig ar weithgareddau newydd fel tennis, trac, neu ddosbarth ffitrwydd.