Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe’n cynnig academïau chwaraeon a gwersylloedd i blant ar bob lefel.

Academïau – Sesiynau Gaeaf
  • Dechrau: 25 Ebrill 2024
  • Amser: 16:00 – 17:00
  • Lleoliad: Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Canolfan Athletau a Hoci, Trac Dan Do (SA2 9AU)
  • Cost: £42 fesul tymor 10 wythnos
  • Yn addas i: 8-9 oed
 Dydd Iau 4-5 o’r gloch
Wythnos 125/04/2024
Wythnos 202/05/2024
Wythnos 309/05/2024
Wythnos 416/05/2024
Wythnos 523/05/2024
 30/05/2024 HANNER TYMOR – DIM ACADEMI
Wythnos 606/06/2024
Wythnos 713/06/2024
Wythnos 820/06/2024
Wythnos 927/06/2024
Wythnos 1004/07/2024

I gofrestru eich plant, dilynwch y camau isod:

Gan ddefnyddio’r ddolen, cofrestrwch eich plentyn fel cwsmer ‘Talu Wrth Fynd’.

Dewiswch ‘SBSP’ yn y gwymplen a chlicio ‘Nesaf/Next’.

Cwblhewch yr holl wybodaeth – nodwch enw a dyddiad geni’r plentyn, ond cyfeiriad e-bost a manylion cyswllt y rhiant/gwarcheidwad.

Peidiwch â chlicio ar y botwm ‘Archebu Nawr’ ar y cam hwn – ond symudwch i Gam 2.

Defnyddiwch y ddolen hon i archebu a thalu am sesiynau.

DS –  Bydd angen i chi ailosod cyfrinair i ddechrau gan ddefnyddio’r ddolen ‘Anghofio eich Cyfrinair’, a dilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost.

Unwaith rydych wedi nodi cyfrinair newydd, mewngofnodwch gan ddefnyddio’r ddolen uchod eto. Ar yr hafan, gwnewch yn siŵr bod ‘What on at’ ar SBSP.  Dewiswch 7 Hydref yn y calendr a chliciwch ar ‘Search/Chwilio’. Pan fydd y canlyniadau’n ymddangos, sgroliwch i waelod y dudalen a chlicio ar yr opsiwn ‘Academi Athletau’, a dilynwch y cyfarwyddiadau o’r fan honno.

Gwersylloedd Athletau a Hoci’r Pasg

Mae’r gwersylloedd hyn yn ystod hanner tymor a gwyliau ysgol yn cael eu goruchwylio gan ein staff profiadol a medrus yn ein cyfleusterau rhagorol, ac maen nhw’n ffordd wych o gadw plant yn actif yn ystod y gwyliau neu feithrin eu sgiliau mewn camp o’u dewis.

Edrychwch ar ein gwersylloedd presennol:

Startrack Camps

  • Dechrau: 2-4 Ebrill 2024
  • Amser: 9:00-15:00
  • Lleoliad: Canolfan Athletau a Hoci, Parc Chwaraeon Bae Abertawe
  • Yn addas i: 9-14 oed
  • Cost: £54

Hockey Camps

  • Dechrau: 25-27 Mawrth
  • Amser: 9:00-15:00
  • Lleoliad: Canolfan Athletau a Hoci, Parc Chwaraeon Bae Abertawe
  • Yn addas i: 7-15 oed
  • Cost: £54

I gofrestru eich plant, dilynwch y camau isod:

  1. Gan ddefnyddio’r ddolen, cofrestrwch eich plentyn fel cwsmer ‘Talu Wrth Fynd’.
  • Dewiswch ‘SBSP’ yn y gwymplen a chlicio ‘Nesaf/Next’.
  • Cwblhewch yr holl wybodaeth – nodwch enw a dyddiad geni’r plentyn, ond cyfeiriad e-bost a manylion cyswllt y rhiant/gwarcheidwad.
  • Peidiwch â chlicio ar y botwm ‘Archebu Nawr’ ar y cam hwn – ond symudwch i Gam 2.

2) Defnyddiwch y ddolen hon i archebu a thalu am sesiynau.

  • DS –  Bydd angen i chi ailosod cyfrinair i ddechrau gan ddefnyddio’r ddolen ‘Anghofio eich Cyfrinair’, a dilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost.
  • Unwaith rydych wedi nodi cyfrinair newydd, mewngofnodwch gan ddefnyddio’r ddolen uchod eto.
  • Ar yr hafan, gwnewch yn siŵr bod ‘What on at’ ar SBSP.  Dewiswch 7 Hydref yn y calendr a chliciwch ar ‘Search/Chwilio’. Pan fydd y canlyniadau’n ymddangos, sgroliwch i waelod y dudalen a chlicio ar yr opsiwn ‘Academi Athletau’, a dilynwch y cyfarwyddiadau o’r fan honno.