Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cynnwys dau gyfleuster campfa o’r radd flaenaf ym Mae Abertawe. Mae gan y ddwy gampfa amrywiaeth fawr o bwysau a pheiriannau cardio i ddiwallu anghenion pawb.

Rydym yn croesawu pawb o, ddechreuwr i athletwyr profiadol, i ddefnyddio ein dwy gampfa.

Gallwch roi cynnig ar un o’n dosbarthiadau ffitrwydd gyda’ch aelodaeth gampfa neu ar sail talu wrth fynd.

Mae campfa Parc Chwaraeon Bae Abertawe wedi’i lleoli ger Campws Parc Singleton Prifysgolion Abertawe. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau hyfforddi ar gyfer pob lefel, gan gynnwys caeau, trac rhedeg, canolfan athletau dan do, campfa, cyrtiau raced, a phwll 50m.

Mae Campfa Campws y Bae wedi’i lleoli yng nghanol Campws Bae Prifysgol Abertawe. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys hyfforddiant pwysau, peiriannau cardio, a dosbarthiadau ffitrwydd. Ein Neuadd Chwaraeon, sef y lle perffaith i gymryd rhan mewn badminton, saethyddiaeth neu bêl-fasged! I’r rhai sydd am dreulio ychydig o amser y tu allan, mae ein caeau awyr agored a chyrtiau wedi eu datblygu i gyd-fynd â’r amgylchedd naturiol sydd wedi’i osod ar hyd ein lleoliad ar lan y traeth.