Mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe nifer dethol o ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi.

Mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe nifer o ystafelloedd aml-swyddogaeth sydd ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd, cyrsiau neu weithgareddau eraill. P’un a ydych chi’n chwilio am le i ffwrdd o’r swyddfa am gyfarfod preifat, diwrnod cwrdd i ffwrdd ar gyfer eich tîm, parti pen-blwydd neu ystafell breifat i’w llogi, mae rhywbeth gennym ni i’w gynnig. Mae gan rai ystafelloedd gyfarpar clyweledol y gellir ei gysylltu â gliniadur, ac mae cynllun mwy hyblyg gan eraill er mwyn cynnal ystod ehangach o weithgareddau. O aromatherapi i ioga, mae rhywbeth at ddant pawb.

Am ragor o wybodaeth neu i archebu ystafell, cysylltwch â’n tîm cymwynasgar yma.

Cadwch lygad yma am y wybodaeth ddiweddaraf!