Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn glwb hyfforddi sy’n gysylltiedig â HYROX. Mae HYROX wedi creu argraff fyd eang. Os nad ydych chi wedi cymryd rhan mewn digwyddiad eto, mae’n siŵr eich bod chi’n adnabod rhywun sydd wedi!

Beth yw HYROX?

Hyrox yw’r prif brawf ffitrwydd i bawb, cystadleuaeth fyd-eang a gynlluniwyd i brofi cryfder a dygnwch trwy gyfres o ymarferion a rhedeg. Mae’r drefn yn eithaf syml, rhedeg cilomedr, cwblhau sesiwn ymarferol, rhedeg cilomedr ac ailadrodd hyn 7 gwaith. Gallwch gymryd rhan ar eich pen eich hun, mewn parau neu mewn grwpiau o 4 person.

Beth mae cysylltiad â HYROX yn ei olygu?

Drwy gael cyswllt â HYROX mae ein hyfforddwyr yn cael mynediad i ganolfan berfformiad HYROX, sy’n rhoi offer perfformiad, ymarferion dyddiol a thiwtorialau dosbarth i ni i gynnal dosbarthiadau ffitrwydd arddull HYROX ein hunain.
Drwy gael cyswllt â HYROX mae ein haelodau’n cael mynediad cyn lansio i ddigwyddiadau sydd ar ddod.

Ffitrwydd HYROX

Ymunwch â’n dosbarthiadau ffitrwydd HYROX. Byddwch chi’n defnyddio offer o’r radd flaenaf i hybu eich stamina, eich dygnwch cyhyrol a’ch cryfder gan eich paratoi ar gyfer cystadleuaeth.

Dydd Llun – 7am
Nos Fercher, 5.30pm

CADWCH LE NAWR

Hyfforddiant HYROX

Hyfforddwch gyda Nafiseh
Bydd ein hyfforddwr/cystadleuydd ffitrwydd cymwys iawn, Nafiseh, yn cynnal sesiynau hyfforddi ar fore Sul. Ni fydd y sesiynau yma yn ddosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr, bydd Nafiseh yn eich sefydlu ac yn hyfforddi ochr yn ochr â chi.

Dydd Sul- 9:30am

Evolve DIY

Bydd ein stiwdio Evolve ar gael i’w harchebu drwy gydol yr wythnos i aelodau gynnal eu sesiynau hyfforddi eu hunain gan ddefnyddio ein hoffer dosbarth, gan gynnwys: sled-tanc, bagiau tywod, rhaffau brwydro a mwy.

Perfformiad HYROX

Gorsafoedd Datblygu
YN DOD YN FUAN – Bydd y sesiynau hyn yn ceisio gwella eich perfformiad  gorsaf gyda Joe yn Y Sied. Rhagor o wybodaeth ar ddod yn fuan.

Dilyniant rhedeg
YN DOD YN FUAN – ni fydd y rhain yn benodol ar gyfer HYROX yn unig, gallant helpu gydag unrhyw ddigwyddiadau rhedeg a allai fod gennych chi yn y dyfodol.

Pilates i redwyr

Cwrs arbenigol 6 wythnos sy’n addas ar gyfer rhedwyr hamdden sy’n awyddus i wella eu dull rhedeg, cryfder craidd a rheolaeth ystum y corff. Mae’n addas hefyd i redwyr mwy datblygedig sy’n awyddus i leihau anafiadau a chynorthwyo gydag adferiad dros bellteroedd dygnwch hirach.

Dyddiad dechrau: 9 Mai 2025 @ 5:15pm
Ymunwch â Kath Lawson-Hughes nos Wener am 5:15pm ar gyfer pilates i redwyr.

Cost cwrs 6 wythnos:
Pris aelod: £31
Pris i rai nad ydynt yn aelodau: £42

Efelychwyr HYROX

YN DOD YN FUAN