Parc Chwaraeon Bae Abertawe, Lôn Sgeti;
Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, Campfa Chwaraeon Abertawe, Canolfan Athletau a Hoci

Cyfeiriad:

Parc Chwaraeon Bae Abertawe

Lôn Sgeti

Abertawe

SA2 8QB

Sut i gyrraedd y lleoliad:

Wrth deithio i’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42 a dilynwch arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483 (Ffordd Fabian).

Wrth groesi Afon Tawe daw’r A483 yn A4067. Parhewch i’r gorllewin ar hyd y ffordd hon, gan basio Archfarchnad Sainsbury’s ar ochr chwith y ffordd. Ar ôl tua 2 filltir, trowch i’r dde ar Lôn Sgeti. Wrth deithio i fyny Lôn Sgeti (A4216), bydd caeau chwarae Parc Chwaraeon Bae Abertawe ar eich llaw chwith. Wrth y goleuadau traffig, trowch i’r chwith i’r cyfleusterau lle byddwch yn gweld maes parcio yn union o flaen y cyfleusterau.

Ty Fulton:

O fynedfa Tŷ Fulton, trowch i’r chwith, yna ar ôl 0.1 filltir, trowch i’r chwith eto. Ar ôl oddeutu 141 troedfedd, trowch i’r dde a cherddwch yn syth, gydag Ysbyty Singleton ar y dde. Ar ôl 0.2 filltir, trowch ychydig i’r chwith a byddwch yn cyrraedd y goleuadau traffig ar Lôn Sgeti (A4216). Bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn syth o’ch blaen, gyda’r caeau chwarae i’r chwith. Wrth y goleuadau traffig, cerddwch mewn llinell syth i’r cyfleusterau lle byddwch yn gweld maes parcio a’r arwydd sy’n dweud Parc Chwaraeon Bae Abertawe.

Campfa Campws Chwaraeon Bae Abertawe

Mae Campfa Campws Chwaraeon Bae Abertawe wedi’i lleoli yng nghanol Campws Bae Prifysgol Abertawe.

Cyfeiriad:

Campws Bae Prifysgol Abertawe

Ffordd Fabian

Twyni Crymlyn

Abertawe

SA1 8EN

Sut i gyrraedd y lleoliad:

Wrth deithio i’r gorllewin ar yr M4, gadewch y draffordd wrth gyffordd 42 a dilynwch arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483 (Ffordd Fabian). Mae Campws y Bae wedi’i leoli ar ochr chwith Ffordd Fabian ac mae’r brif fynedfa’n cael ei rheoli gan oleuadau traffig. Mae Maes Parcio i Ymwelwyr yn union i’r chwith o’r brif fynedfa. Mae cyfleuster Parcio a Theithio mawr wedi’i leoli ar Ffordd Fabian, sy’n bellter byr o Gampws y Bae.