Ymgysylltwch, cyffrowch a thaniwch eich brand drwy gyfleusterau, ysgoloriaethau, clybiau a chyfleoedd noddi Varsity Cymreig.

Ewch ar daith rithwir o amgylch y cyfleusterau yma.

Bwrdd Hysbysebu

Cefnogwch eich hoff dîm a sicrhewch fod eich brand wrth galon y bwrlwm gyda byrddau hysbysebu ar gael ar draws ein holl gyfleusterau allanol, gan gynnwys y Trac Athletau, Caeau Rygbi a Chaeau Hoci.

Nawdd yn cynnwys:

  • Bwrdd hysbysebu
  • Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
  • Tocynnau gêm Varsity Cymru

Cymryd Drosodd Brand Cyfleuster

Sicrhewch fod eich brand yn amlwg ymhlith y gweddill ac yn cyrraedd ein cefnogwyr amrywiol ac angerddol yn ogystal â’r gymuned leol wrth gymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol gyda’ch brand.

Nawdd yn cynnwys:

  • Eich brand yn cymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol
  • Bwrdd hysbysebu
  • Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
  • Tocynnau gêm Varsity Cymru
  • Tocynnau lletygarwch Varsity Cymru

Prif Noddwr Chwaraeon Abertawe

Cefnogi Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a dod yn Brif Noddwr brand Chwaraeon Abertawe gydag amlygiad ar draws asedau Chwaraeon Abertawe.

Nawdd yn cynnwys:

  • Eich brand yn cymryd drosodd un o’n cyfleusterau chwaraeon allweddol
  • Amlygrwydd brand ar arwyddion asedau Chwaraeon Abertawe
  • Bwrdd hysbysebu x 2
  • Cydnabyddiaeth a dolennu ar wefan Prifysgol Abertawe
  • Cydnabyddiaeth brand ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
  • Cynnwys brand ar lofnodion e-bost staff Chwaraeon Abertawe
  • Tocynnau gêm Varsity Cymru
  • Tocynnau lletygarwch Varsity Cymru
  • Tocynnau Gwobrau Chwaraeon Abertawe Blynyddol

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd noddi hyn, cysylltwch â ni drwy commercialservices@swansea.ac.uk

Noddi Ysgolhaig Prifysgol Abertawe

Mae ein cynllun ysgoloriaeth yn ceisio cynnwys yr amrediad eang o ddoniau pobl ifanc mewn chwaraeon unigol a thîm. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sy’n bodloni’r gofynion academaidd arferol ar gyfer mynediad, ac ar ben hynny wedi dangos gallu eithriadol yn eu maes chwaraeon. Mae ein rhaglen ysgoloriaethau chwaraeon yn caniatáu i ni gefnogi athletwyr dawnus i gyflawni eu potensial a chyrraedd eu nodau chwaraeon wrth astudio yn y Brifysgol.  Fodd bynnag, ceir ysgoloriaethau o lefelau gwahanol gan ddibynnu ar lefel y cyflawniad chwaraeon. Mewn rhai achosion, mae angen cyllid ychwanegol ar ein hathletwyr i helpu i leddfu’r baich ariannol a roddir arnynt wrth barhau â’u gyrfaoedd chwaraeon.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Noddi Ysgoloriaeth Prifysgol Abertawe.

Noddi Clwb Chwaraeon Abertawe

Mae gan Chwaraeon Abertawe ystod enfawr o glybiau chwaraeon cystadleuol a rhai nad ydynt yn cystadlu.  Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn yn Chwaraeon Abertawe.  Trwy ein dewis anferth o glybiau a chwaraeon eraill, ein nod yw creu awyrgylch sy’n ei wneud yn hawdd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn chwaraeon.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Noddi Clybiau Chwaraeon.

Noddi Timau Prifysgol Cymru

Cyfleoedd ar gyfer 2023, yn dod yn fuan…

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Nawdd Versity Cymru.