Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig amrywiaeth o raglenni chwaraeon perfformio uchel ac ysgoloriaethau sefydledig i gefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn athletwyr talentog.

Mae gan y rhaglenni chwaraeon perfformiad uchel sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe fynediad i gyfleusterau o’r radd flaenaf yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Fel rhan o’r rhaglen, rydym yn gallu rhoi cymorth i athletwyr elît gyrraedd lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig Cynlluniau Ysgoloriaeth Athletau Talentog (TASS) yn ogystal â chyfleoedd ysgoloriaeth eraill, gan ddarparu pecynnau cymorth gyda manteision ariannol i nifer o fyfyrwyr bob blwyddyn.

I gael gwybodaeth am y rhaglenni chwaraeon a’r ysgoloriaethau perfformiad uchel sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe, Chwaraeon Abertawe cliciwch yma.