1 Gwybodaeth Gyffredinol

Rydym yn ymrwymedig i warchod preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol.

O dan y gyfraith diogelu data, ‘Bydd Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe a Phrifysgol Abertawe yn gweithredu fel rheolwyr data ar y cyd.’ Mae hyn yn golygu ein bod yn cadw data personol amdanoch chi a’n bod yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn storio ac yn defnyddio’r wybodaeth bersonol hon.

Fel rheolydd data, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddarparu gwybodaeth benodol i unigolion rydym yn cadw, yn casglu, yn caffael, yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanynt. Mae’r wybodaeth honno wedi’i chynnwys yn y ddogfen hon (ein “hysbysiad preifatrwydd”).

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y ddogfen hon (ynghyd ag unrhyw hysbysiadau preifatrwydd eraill y gallwn eu darparu i chi ar adegau penodol), fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol a’r hawliau sydd gennych mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i holl aelodau, cleientiaid, darpar aelodau a darpar gleientiaid Parc Chwaraeon Bae Abertawe (‘SBSP’), a’r holl gynrychiolwyr sy’n mynychu digwyddiad yn y cyfleusterau.

Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cynnwys partneriaeth â Phrifysgol Abertawe (Chwaraeon Abertawe) a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (WNPS), ac mae’r polisi hwn yn cynnwys unrhyw aelodaeth neu ddigwyddiadau mewn perthynas â’r endidau partner hyn. 

Byddwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Yn ôl y ddeddfwriaeth hon, mae’n rhaid bod yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol:

1. Mae’n cael ei defnyddio mewn modd cyfreithlon, teg ac agored.

2. Mae’n cael ei chasglu yn unig at ddibenion dilys rydym wedi’u hesbonio’n glir i chi ac ni chaiff ei defnyddio mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny.

3. Mae’n berthnasol i’r dibenion rydym wedi’ch hysbysu amdanynt ac yn gyfyngedig i’r dibenion hynny yn unig.

4. Mae’n gywir ac yn gyfredol.

5. Ni chaiff ei chadw am gyfnod hwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion rydym wedi’ch hysbysu amdanynt.

6. Mae’n cael ei chadw’n ddiogel.

2  Pa wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi?

Rydym yn casglu unrhyw un o’r mathau o wybodaeth ganlynol gan ein cwsmeriaid a’n darpar gwsmeriaid. Mae hyn yn digwydd naill ai wyneb yn wyneb o fewn y cyfleuster, trwy ein system archebu ar-lein, trwy e-bost, dros y ffôn neu drwy ein gwefan. Bydd angen yr holl wybodaeth y gofynnir amdani wrth gofrestru yn unol â’n Telerau ac Amodau. Byddwn yn casglu rhai categorïau o wybodaeth bersonol am ddarpar aelodau at ddibenion cysylltu.

Os ydych chi’n mynychu digwyddiad gan drefnydd allanol yn y cyfleusterau gan gynnwys gwersyll neu dwrnamaint, weithiau bydd trefnydd y digwyddiad rydych chi’n ei fynychu (ein cleient) yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch i ni.  

Mae deddfwriaeth diogelu data’n gwarchod gwybodaeth bersonol, sef, yn ei hanfod, unrhyw wybodaeth sy’n galluogi rhywun i adnabod unigolyn. Ceir math penodol o wybodaeth bersonol sy’n destun mesurau diogelu ychwanegol oherwydd ei natur sensitif neu breifat. Weithiau, cyfeirir at hyn fel ‘gwybodaeth o gategori arbennig’ megis gwybodaeth bersonol am hil, tarddiad ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth undeb llafur (neu ddiffyg aelodaeth), gwybodaeth am eneteg, gwybodaeth fiometrig (lle defnyddir hon i adnabod unigolyn)  gwybodaeth am iechyd, bywyd rhywiol neu dueddfryd rhywiol unigolyn.

Yr unig ‘wybodaeth bersonol o gategori arbennig’ a fydd yn cael ei chasglu amdanoch chi yw gwybodaeth am gyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes sy’n berthnasol i weithgarwch corfforol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw yn unol â rheoliadau GDPR ac ni fydd ar gael i neb ac eithrio staff y cyfleuster gan ei bod yn ymwneud â’ch Iechyd a’ch Diogelwch wrth fynychu SBSP.

Bydd yr wybodaeth y byddwn yn ei chasglu gan aelodau, cleientiaid, darpar aelodau a darpar gleientiaid sy’n ymgysylltu â ni yn cynnwys y canlynol:

  • Enw llawn (gan gynnwys teitl)
  • Cyfeiriad cartref
  • Dyddiad geni
  • Rhif ffôn cartref
  • Rhif ffôn Symudol
  • Cyfeiriad e-bost preifat
  • Llun i’w ddefnyddio yn y system reoli
  • Swydd
  • Enw cyflogwr, os yw’n berthnasol
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Dewisiadau cyswllt ar gyfer cyfathrebu â SBSP gan gynnwys dewis iaith 
  • Cytundeb i holl Delerau ac Amodau a pholisïau’r cyfleuster
  • Manylion cerdyn credyd/debyd a/neu gyfrif banc os yw’n berthnasol
  • Dilysu unrhyw ostyngiad ym mhris aelodaeth os yw hynny’n berthnasol
  • Unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n ei darparu i ni amdanoch chi neu’ch ymholiad

Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei chynnwys mewn cofnod aelodaeth gyda rhif adnabod unigryw. Mae hyn yn golygu y bydd modd i ni adnabod aelodau trwy edrych ar eu llun a sicrhau na fydd eu cerdyn yn cael ei gamddefnyddio os caiff ei golli neu ei ddwyn.

Yn ogystal, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am fanylion o gategori arbennig yn ymwneud â chyflyrau iechyd er mwyn sicrhau eich diogelwch a’ch lles wrth ddefnyddio ein cyfleusterau a chymryd rhan yn ein gweithgareddau. 

Hefyd, o bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd angen i ni gasglu neu ofyn am fanylion yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb.

Bydd yr wybodaeth a gesglir gennym gan bobl sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau, neu gan drefnwyr digwyddiadau am bobl sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau, yn cynnwys y canlynol:

  • Enw a theitl dewisol
  • Swydd mewn sefydliad neu fel cystadleuydd lle bo hynny’n berthnasol
  • Rhywedd
  • Gwneuthuriad, model a rhif cofrestru cerbyd
  • Alergeddau neu ofynion deietegol arbennig os yw’n berthnasol
  • Gwybodaeth am unrhyw ofynion arbennig sydd gennych er mwyn gallu defnyddio’r cyfleusterau
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Manylion cerdyn credyd/debyd a/neu gyfrif banc os yw’n berthnasol
  • Unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n ei darparu i ni mewn perthynas â’ch digwyddiad

Yn ogystal, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am fanylion o gategori arbennig yn ymwneud â chyflyrau iechyd er mwyn sicrhau eich diogelwch a’ch lles wrth ddefnyddio ein cyfleusterau a chymryd rhan yn ein gweithgareddau. 

Hefyd, o bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd angen i ni gasglu neu ofyn am fanylion yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb.

3      At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonola beth yw ein seiliau cyfreithiol dros wneud hynny?

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch at nifer o ddibenion gwahanol a restrir isod. Yn ôl deddfwriaeth diogelu data, mae’n rhaid bod gennym sail gyfreithiol ddilys dros ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Rhestrir isod y seiliau cyfreithiol byddwn yn dibynnu arnynt.

3.1 Rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi am y rhesymau canlynol:

  • i weinyddu a darparu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
    • gysylltu â chi mewn perthynas â’ch aelodaeth neu’ch archeb
    • gwybodaeth am unrhyw newidiadau i’r cyfleusterau neu aelodaeth gan gynnwys newid prisiau a rhewi prisiau
    • dadansoddi eich ymgysylltiad â’n negeseuon e-bost a’n dulliau cyfathrebu eraill
    • prosesu taliadau ar gyfer ffioedd aelodaeth neu ddigwyddiadau

Yn yr achos hwn, bydd y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn deillio o’r ffaith ei bod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r contract rhyngom.

3.2        Byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi os yw’n ymwneud â’ch rôl mewn cwmni neu sefydliad, am y rhesymau canlynol:

  • i’ch annog i archebu neu ail-archebu digwyddiad gyda ni
  • i ddadansoddi eich ymgysylltiad â’n negeseuon e-bost a’n dulliau cyfathrebu eraill
  • mae delweddau teledu cylch cyfyng a gwe-gamera ar ffurf delweddau fideo neu ddelweddau llonydd yn cael eu casglu a’u storio dros dro. Gwneir hyn er mwyn darparu amgylchedd diogel er budd pobl sy’n defnyddio’r cyfleusterau a staff SBSP.

Ym mhob un o’r achosion hyn, bydd y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn deillio o’r ffaith bod gwneud hynny yn un o’n buddiannau dilys. Dyma ein buddiannau dilys penodol:

  • gweithredu model busnes cynaliadwy
  • gwella ein henw da trwy ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid

3.3         Hefyd, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi, os ydych chi wedi rhoi cydsyniad penodol ac os nad yw’n ymwneud â data sy’n cael ei brosesu o dan 3.2, am y rhesymau canlynol:

  • i ddarparu gwybodaeth farchnata i chi am ein cynhyrchion a’n gwasanaethau
  • i olrhain sut rydych chi’n defnyddio ac yn rhyngweithio â’n gwefan
  • i ddadansoddi eich hanes archebu personol, gyda’r bwriad o’ch annog i archebu eto neu’n amlach
  • i’ch annog i ddod yn aelod neu adnewyddu eich aelodaeth bresennol

Yn yr achos hwn, bydd y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn deillio o’r ffaith eich bod wedi cydsynio i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn.

3.4        Byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch am y rhesymau canlynol:

  • i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol

Yn yr achosion hyn, bydd y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn deillio o’r ffaith bod angen yr wybodaeth arnom er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.

3.5        Bydd angen i ni gyfathrebu â chi er mwyn anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys hysbysiadau am daliadau debyd uniongyrchol, gwybodaeth am ddigwyddiadau dilynol, rhestrau aros, negeseuon gwasanaeth ac ati. Heb gysylltu â chi yn y modd hwn, ni fyddem yn gallu darparu ein gwasanaethau i chi, ac mae anfon negeseuon o’r fath yn cyd-fynd â’n sail gyfreithlon dros brosesu eich data er mwyn gwneud y canlynol:

    gwirio eich hunaniaeth
•    cadarnhau cymhwystra lle bo hynny’n berthnasol (e.e. statws myfyriwr, pasbort i hamdden ac ati)
•    gwneud gwaith ymchwil er mwyn helpu i ddatblygu cyfleusterau a gwasanaethau
•    diogelu a hyrwyddo lles ein cwsmeriaid
•    sicrhau diogelwch eiddo a diogelwch personol ein cwsmeriaid

Ni fydd eich data yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau awtomatig.

Mae ein cynhyrchion a’n gwasanaethau ar gael i bobl o bob oed, ond rhaid i riant neu warcheidwad gydsynio i ddarparu gwybodaeth bersonol am blant o dan 13 oed. Heb y cydsyniad hwn, ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol.

4          Pa Wybodaeth o Gategori Arbennig rydym yn ei chadw amdanoch chi?

Byddwn yn cadw gwybodaeth am gyflyrau meddygol gan gynnwys cyflyrau sy’n bodoli eisoes sy’n berthnasol i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei datgelu i ni gan y cyfranogwyr gan ei bod yn effeithio ar eu Hiechyd a’u Diogelwch wrth ddefnyddio ein cyfleusterau.

Yn yr achos hwn, bydd y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn deillio o’r ffaith bod cadw aelodau yn ddiogel wrth ddefnyddio’r cyfleuster yn un o’n buddiannau dilys. Mae hefyd er budd yr aelodau i’n galluogi i ddarparu cymorth perthnasol pan fydd angen.

Hefyd, rydym yn dibynnu ar y ffaith bod prosesu gwybodaeth yn angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â chyfraith Iechyd a Diogelwch.

O dan Erthygl 9, mae’r gwaith prosesu hwn yn angenrheidiol am resymau budd sylweddol y cyhoedd (sydd â sail gyfreithlon) . 

5              Gwybodaeth gyffredinol bellach am ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ond at y dibenion y cafodd ei chasglu ar eu cyfer, oni bai bod gennym reswm da i feddwl bod angen i ni ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol.

Nodwch y gallwn brosesu eich gwybodaeth bersonol heb eich gwybodaeth neu eich cydsyniad, yn unol â’r rheolau uchod, lle y gofynnir neu y caniateir hyn gan y gyfraith. Nid ydym yn gwneud unrhyw benderfyniadau na phroffilio awtomatig yn eich cylch.

6     Â phwy ydym yn rhannu’ch gwybodaeth?

Bydd SBSP yn cadw eich data personol. Gall SBSP rannu gwybodaeth gyda sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau penodol ar ein rhan a allai ein helpu i hwyluso’r gwasanaethau a’r cyfleusterau rydym yn eu cynnig i chi neu wella ein cynhyrchion a’ch profiad fel y nodir yn adrannau 3. Mae contractau ar waith gyda phob trydydd parti sy’n cynnwys telerau ac amodau llym i ddiogelu eich preifatrwydd.

O bryd i’w gilydd, bydd angen i ni rannu’ch gwybodaeth â phobl a sefydliadau allanol. Ni fyddwn yn gwneud hynny oni bai fod gennym sail ddilys neu gyfreithiol dros wneud hynny ac wrth gydymffurfio â’n rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth diogelu data. Gellir datgelu’ch gwybodaeth i’r canlynol:

  • Darparwyr gwasanaethau marchnata digidol mewn perthynas â’ch rhyngweithio â’n gwefan
  • Yr Heddlu, awdurdodau lleol, y llysoedd ac unrhyw awdurdod arall y llywodraeth pan ofynnir i ni wneud hynny (dim ond lle mae’n gyfreithiol i ni wneud hynny)
  • Lle bo dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud hynny, e.e. i gydymffurfio â gorchymyn llys

8                  Trosglwyddo’ch Gwybodaeth Dramor

Mae’n bosibl y byddwn yn trosglwyddo eich data y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE), ond os ydym yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol.

9         Am faint o amser y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

I sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran diogelu data a phreifatrwydd, ni fyddwn yn cadw’ch gwybodaeth ond am y cyfnod sy’n angenrheidiol at y dibenion a fu’n sail ei chasglu yn y lle cyntaf. Mae ein hamserlenni cadw penodol fel a ganlyn:

Manylion banc ar gyfer cwsmeriaid Debyd Uniongyrchol:

  • Ar ôl canslo debyd uniongyrchol, bydd y manylion banc yn cael eu tynnu o’r cofnod aelodaeth o fewn un mis calendr
  • Bydd cofnodion papur ar gyfer debydau uniongyrchol byw yn cael eu cadw am uchafswm o 60 mis
  • Bydd cofnodion papur ar gyfer cwsmeriaid debyd uniongyrchol sydd wedi dod i ben yn cael eu cadw am uchafswm o 12 mis

Cofnodion aelodaeth:

  • Byddwn yn cadw’r data trwy gydol eich cyfnod fel aelod
  • Os oes cydsyniad wedi’i ddarparu fel sail gyfreithlon i ni gasglu eich data, oni thynnir y cydsyniad hwnnw yn ôl, bydd y data yn cael ei gadw trwy gydol eich cyfnod fel aelod gyda ni neu hyd y bydd yr aelodaeth yn cael ei chanslo ac yn unol ag arferion safonol y diwydiant am uchafswm o 36 mis
  • Os mai buddiant busnes dilys yw ein sail gyfreithlon dros gasglu eich gwybodaeth, bydd y data yn cael ei gadw trwy gydol cyfnod gweithredol yr aelodaeth neu hyd y bydd yr aelodaeth yn cael ei chanslo ac yn unol ag arfer safonol y diwydiant am uchafswm o 24 mis

Archebu cyfleusterau a digwyddiadau:

  • Yn dilyn ymholiad gyda SBSP; tan ddiwedd y flwyddyn galendr ar ôl pen-blwydd cyntaf eich ymgysylltiad â ni
  • Yn dilyn aelodaeth neu ddigwyddiad a gynhaliwyd gan SBSP neu a fynychwyd gyda SBSP; tan ddiwedd y flwyddyn galendr yn dilyn ail ben-blwydd eich ymgysylltiad â ni

Bydd eich data yn cael ei gadw trwy gydol eich cyfnod fel cwsmer gyda ni. Pan na fyddwch chi’n gwsmer i ni bellach, byddwn yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod sydd, yn ein barn ni, yn ddefnyddiol i ni allu cysylltu â chi (dim mwy na 3 blynedd) neu fel sy’n ofynnol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol. Os nad oes angen cadw eich data at unrhyw ddiben statudol neu gyfreithiol, mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu’ch data.

Wrth benderfynu ar y cyfnod perthnasol i gadw data personol, rydym yn ystyried hyd a lled, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg o niwed pe bai’ch data personol yn cael ei ddefnyddio neu ei ddatgelu heb awdurdod, dibenion prosesu’ch data personol ac a fyddai modd i ni gyflawni’r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

10          Hawliau unigolyn

Mae deddfwriaeth diogelu data yn darparu nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â’u data. Rhestrir y rhain isod ac maent yn berthnasol i amgylchiadau penodol:

  • Cais am fynediad i’ch gwybodaeth bersonol (sy’n cael ei adnabod yn gyffredin fel ‘cais am fynediad gan wrthrych data’). Mae hyn yn rhoi hawl i chi dderbyn copi o’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi a gwirio ein bod yn ei phrosesu’n gyfreithlon.
  • Cais i gywiro’r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi.
  • Cais i ddileu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu gwybodaeth bersonol lle nad oes gennym reswm da dros barhau i’w phrosesu. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i ni ddileu neu dynnu’ch gwybodaeth bersonol lle’r ydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu i ni ei phrosesu (gweler isod).
  • Gwrthwynebu i brosesu eich gwybodaeth bersonol, lle’r ydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiannau trydydd parti) ac mae rhywbeth yn eich sefyllfa benodol sy’n golygu eich bod yn gwrthwynebu i brosesu ar y sail hon. Mae gennych hawl i wrthwynebu hefyd lle’r ydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol.
  • Cais i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, er enghraifft, os hoffech i ni gadarnhau ei chywirdeb neu’r rheswm dros ei phrosesu.
  • Cais i drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ar ffurf gludadwy. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib y bydd gennych hawl i ofyn i ni ddarparu copi electronig o’ch gwybodaeth bersonol, naill ai at eich defnydd personol, neu i’w rhannu â sefydliad arall. Lle bo’r hawl hon yn berthnasol, gallwch ofyn i ni drosglwyddo’ch data personol yn uniongyrchol i’r parti arall os yw hyn yn ymarferol.

Os hoffech adolygu, gwirio, cywiro neu ofyn i ni ddileu’ch gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu i ni brosesu’ch data personol neu ofyn i ni drosglwyddo copi o’ch gwybodaeth bersonol i barti arall, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data SBSP

Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Lôn Sgeti
Abertawe
SA2 8QG

E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk

Ni chodir ffi fel arfer

Ni fydd rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad i’ch gwybodaeth bersonol (neu i arfer unrhyw un o’r hawliau eraill). Fodd bynnag, gallwn godi ffi resymol os yw’n amlwg bod eich cais am fynediad yn ddi-sail neu’n eithafol. Neu gallwn wrthod eich cais mewn amgylchiadau o’r fath.

Yr hyn y gallwn ofyn i chi ei ddarparu

Gallwn ofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol i’n helpu i gadarnhau pwy ydych chi ac i sicrhau bod gennych hawl i gael mynediad i’r wybodaeth (neu i arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill). Mae hyn yn fesur diogelwch priodol arall i sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i unrhyw un nad oes ganddo hawl i’w derbyn.

11           Eich gallu i dynnu cydsyniad yn ôl

Lle bo’ch data personol yn cael ei brosesu ar sail eich cydsyniad neu’ch cydsyniad penodol, mae gennych hawl i dynnu’ch cydsyniad i brosesu yn ôl unrhyw bryd. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data a nodir yn adran 17. Ni fydd y ffaith eich bod yn tynnu cydsyniad yn ôl yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw weithgarwch i brosesu’ch data personol ar sail cydsyniad a wnaed cyn i chi ein hysbysu eich bod am dynnu’ch cydsyniad yn ôl.

12          Canlyniadau peidio â darparu’r data pan fo’r cais yn seiliedig ar ofyniad statudol neu o ran contract

Ni fydd SBSP yn gallu gweinyddu eich archeb neu’ch aelodaeth os ydych yn gwrthod darparu’r wybodaeth angenrheidiol sy’n rhan o ofyniad contractiol.

12    Diogelwch gwybodaeth

Mae diogelu eich data yn fater difrifol iawn i SBSP. Mae’r canllawiau a ddefnyddir gennym i ofalu am eich data wedi’u rhestru isod:

  • Cynnal systemau diogel er mwyn gwarchod eich gwybodaeth bersonol
  • Bydd eich dewisiadau cyfathrebu yn cael eu parchu a byddwn yn cysylltu â chi yn unol â’ch dewis (ni allwn gysylltu â chi trwy neges destun ar hyn o bryd)
  • Bydd eich dewisiadau gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diweddaru’n brydlon pan fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny
  • Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy na’r hyn sy’n angenrheidiol at ein dibenion busnes dilys
  • Byddwn yn ymateb yn llawn i unrhyw gais gennych i weld yr wybodaeth sydd gennym amdanoch chi
  • Ni fyddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti
  • Mae gennym weithdrefnau ar waith ar gyfer trin, prosesu a storio eich gwybodaeth

13      Diweddariadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu’r ffyrdd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn rheolaidd. Wrth wneud hyn, gallwn newid y math o wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei storio, â phwy rydym yn ei rhannu a sut rydym yn gweithredu arno.

O ganlyniad, bydd angen i ni newid y polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i sicrhau ei fod yn gywir ac yn gyfredol. Byddwn yn adolygu’r polisi hwn yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn gywir ac yn gyfredol. Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2025.

14      Amdanom Ni

Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn gyfleuster ar y cyd sydd â dau leoliad yn ardal Bae Abertawe. Fe’i rheolir yn uniongyrchol gan Chwaraeon Abertawe (Prifysgol Abertawe) a Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (Dinas a Sir Abertawe). Mae’r prif gyfleuster, gan gynnwys y dderbynfa, wedi’i leoli yn Lôn Sgeti, Sgeti, Abertawe, SA2 8QG.

Ni yw rheolydd data’r wybodaeth rydych yn ei darparu i ni. Mae’r term ‘rheolydd data’ yn ymadrodd cyfreithiol a ddefnyddir i ddisgrifio’r unigolyn neu’r endid sy’n rheoli’r ffyrdd y caiff gwybodaeth ei defnyddio a’i phrosesu.

15     Ble i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau neu sut i gwyno

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n rheoleiddio materion diogelu data a phreifatrwydd yn y DU. Darperir llawer o wybodaeth ar eu gwefan ac maent yn sicrhau bod manylion cofrestredig pob rheolydd data fel ni ar gael i’r cyhoedd. Gallwch eu gweld yma http://www.ico.gov.uk/for_the_public.aspx.

Gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw adeg am y ffordd rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth. Fodd bynnag, ein gobaith yw y byddech yn ystyried dod atom ni yn y lle cyntaf i ddatrys unrhyw broblem neu gŵyn sydd gennych. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych.

16         Hunaniaeth a manylion cyswllt y Rheolydd Data

Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe a Phrifysgol Abertawe (Chwaraeon Abertawe) yw’r Cyd-reolwyr Data ac maent wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), GDPR y DU, a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig yr UE 2003. (Rydym wedi cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (rhif cyfeirnod Z9495912.)

17      Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data

Mae modd cysylltu â Swyddog Diogelu Data Parc Chwaraeon Bae Abertawe trwy e-bostio dataprotection@abertawe.ac.uk. Bydd yn ymateb i bob cais. Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd i drafod eich gwybodaeth.