Rydym mor falch bod Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe wedi ailagor fel y gallwn ddychwelyd i’r dŵr!

Gwyddom ei bod hi wedi bod yn amser hir ers ichi fynd i’r pwll, felly roeddem yn meddwl y byddem yn rhannu rhai awgrymiadau â chi.  Os ydych yn nofiwr medrus neu’n mwynhau nofio nawr ac yn y man, bydd yr awgrymiadau hyn yn sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus a’ch bod yn dychwelyd i’r pwll yn ddiogel.

Wrth ddychwelyd i unrhyw fath o ymarfer corff, araf bach mae mynd ymhell! Os ydych yn codi pwysau yn y gampfa neu’n ailgydio mewn rhedeg, neu yn yr achos hwn, yn dychwelyd i’r pwll, rydym yn awgrymu eich bod yn ei chymryd hi’n araf. Gweithiwch yn araf i gynyddu eich pellter neu’ch cyflymder wythnos ar y tro er mwyn osgoi anafiadau a blinder.

Hefyd byddem yn eich annog i lunio amserlen i helpu gyda’ch cysondeb. Cynlluniwch pryd byddwch yn mynd i nofio’r wythnos honno drwy Ap Parc Chwaraeon Abertawe ond hefyd dylech gael syniad o’r hyn yr hoffech ei gyflawni yn y sesiynau hynny e.e. nofio am 20 munud neu nofio 5 hyd a chynyddu hyn pan fyddwch yn barod i wneud hynny. Bydd hyn yn eich helpu i gadw eich cymhelliant a thros ychydig wythnosau, byddwch yn dechrau gweld gwelliant wrth nofio.

Cymysgwch eich strociau i dargedu cyhyrau gwahanol. Mae’n hawdd glynu wrth yr hyn sy’n teimlo fwyaf cyfforddus ichi ond heriwch eich hun ar adegau a gwneud strôc nad ydych wedi’i gwneud ers tro. Mae newid strociau yn ystod eich sesiwn hefyd yn helpu i leihau blinder wrth nofio pellterau hwy, felly rhowch gynnig arni!

Mae dychwelyd i’r pwll hefyd yn gyfle perffaith ichi adnewyddu eich gwisg nofio. Bydd gwisgo dillad nofio sy’n ffitio’n iawn yn lleihau’r siawns o dynnu eich sylw yn y pwll a gall helpu i wneud ichi deimlo’n fwy cyfforddus a hyderus wrth gamu allan o’r pentref newid.

Yn olaf, mae angen ichi sicrhau eich bod yn rhoi’r maeth cywir yn eich corff. Os ydych yn bwyta cyn mynd i’r pwll, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael 2-4 awr ar ôl bwyta pryd mawr a thua 30 munud i 2 awr am bryd llai. Rydym ym awgrymu dod â banana neu far grawnfwyd fel y gallwch gael rhywbeth i’w fwyta ar ôl eich sesiwn nofio.

Iawn, dyma’r un olaf..mwynhewch! Rydym yn gwybod eich bod wedi gweld eisiau’r pwll, oherwydd rydym ni wedi’n fawr, felly gwnewch yn fawr o’ch sesiwn nofio!

A yw darllen hwn wedi’ch ysbrydoli i ddychwelyd i’r pwll? Gallwch weld ein hopsiynau aelodaeth ar-lein neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar yn y dderbynfa a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau.