Pwy sydd ddim yn mwynhau byrbryd drwy gydol y dydd? Os ydych chi’n chwilio am fyrbrydau cyflym sy’n rhoi hwb i egni nad ydynt yn amharu ar eich patrwm hyfforddi, yna mae gennym rai syniadau i godi blys!

Mae rhai o’n hoff ryseitiau byrbrydau iachus isod;

Peli Protein Menyn Cnau

Ffefryn! Ac yn berffaith ar gyfer pan fydd angen ychydig o hwb egni arnoch!

Cynhwysion:

  • 160g Ceirch
  • 64g Cnau coco wedi ei rwygo a heb ei felysu 
  • 32g Darnau Siocled Bach
  • 2lwy fwrdd Hadau Chai
  • 2 lwy fwrdd Hadau Llin
  • ½ llwy de Sinamon mâl
  • ¼ llwy de Halen
  • 96g Menyn Pysgnau (Naturiol)
  • 32g Mêl
  • ½ llwy de Fanila Pur wedi’i Ddistyllu
  • 2 lwy fwrdd Llaeth

Dull:

  • Cam 1. Leiniwch badell bobi fawr gyda phapur pobi. Mewn powlen fawr, cymysgwch y ceirch, darnau siocled, cnau coco, chia, llin, sinamon a halen nes eu bod wedi’u cyfuno. Ychwanegwch y menyn pysgnau, mêl a fanila a chymysgwch. Dylai’r cymysgedd fod ychydig yn friwsionllyd. Os yw’n rhy sych, ychwanegwch laeth yn raddol.
  • Cam 2. Rholiwch y cymysgedd yn beli a’u gosod ar badell bobi wedi’i pharatoi. Rhowch nhw yn yr oergell nes eu bod wedi oeri, tua 30 munud.

Manylion Llawn – https://www.delish.com/cooking/recipe-ideas/a25416301/protein-balls-recipe/

Ffordd Newydd i fwynhau Wyau a Thost Milwyr

Meddyliwch am wyau wedi’u berwi’n feddal a milwyr traddodiadol ond cyfnewidiwch y tost am asbaragws blasus! Bydd eich wyau dipio yn blasu cystal ond bydd yr amrywiaeth hon yn opsiwn braster isel, heb glwten, gwych.

Cynhwysion:

  • 1 wy wedi’i ferwi’n feddal
  • 7 picell asbaragws wedi’u stemio

Dull:

  • Torrwch yr wy wedi’i ferwi’n feddal yn ei hanner a’i weini gyda’r asbaragws wedi’u stemio i’w dipio.

Manylion Llawn – https://www.bbcgoodfood.com/recipes/egg-soldiers

Dip Afocado Hufennog

Mae’r dip hufennog hwn yn llawn protein a brasterau iach!

Cynhwysion:

  • 2 Afocado Aeddfed
  • 64g Iogwrt Groegaidd Plaen
  • 2 Ewin Garlleg (Wedi’u malu’n fân)Juice of 1 Lime
  • Sudd 1 Leim
  • Halen
  • Pupur Du
  • Pita neu greision tortilla a ffyn llysiau i’w dipio

Dull:

  • Cam 1. Mewn powlen ganolig, stwnsiwch afocados gyda fforc
  • Cam 2. Ychwanegwch iogwrt, garlleg a sudd leim a digon o halen a phupur
  • Cam 3. Gweinwch gyda phita neu greision tortilla a ffyn llysiau.

Manylion Llawn – https://www.delish.com/cooking/recipe-ideas/recipes/a45365/creamy-avocado-dip-recipe/

Creision Llysiau Cartref

Hawdd iawn i’w gwneud, heb olew o gwbl! Ni fydd y ffefrynnau crensiog hyn yn siomi.

Cynhwysion:

  • 500g Pannas
  • 330g Moron
  • 400g Betys
  • Halen Môr
  • ½ llwy de Hadau Ffenigl
  • 2 Tsili Coch Sych

Dull:

  • Cam 1. Cynheswch y popty i 150 gradd/nwy 2-3
  • Cam 2. Sgrwbiwch y pannas, y moron a’r betys. Gan ddefnyddio mandolin neu sleisiwr trwchus ar gratiwr, torrwch bob un o’r llysiau ar ongl yn ddarnau hir – maent wir yn crebachu yn y popty.
  • Cam 3. Rhowch y sleisys llysiau mewn un haen ar badell pobi – cadwch y llysiau ar wahân. Rhowch y moron a’r betys yn y popty am tua 2 awr; ar ôl 30 munud ychwanegwch y pannas. Tynnwch pan fyddant yn sych, yn grensiog ac wedi’u coginio.
  • Cam 4. Malwch yr halen, yr hadau ffenigl a’r tsili mewn morter, a’u taenu dros eich creision. Gweinwch yn boeth neu’n oer.

Manylion Llawn – https://www.jamieoliver.com/recipes/vegetables-recipes/homemade-vegetable-crisps/