O’r diwedd mae’n bryd ailagor cyfleusterau hamdden yng Nghymru a dyma’r cyfle perffaith i ni gyflwyno Parc Chwaraeon Bae Abertawe (SBSP) i chi. Dyma Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe a Chwaraeon Abertawe yn cydweithio i wella profiadau ein haelodau a’n cwsmeriaid.

Felly beth sydd wedi newid?

Yn gyntaf, mae’r fynedfa i Gampfa Singleton wedi newid, felly rydym bellach yn gofyn i bawb sy’n ymweld â’r cyfleusterau fynd i mewn drwy fynedfa Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Yma, bydd staff cyfeillgar ein derbynfa yn eich croesawu a byddant yno i’ch cyfeirio at y cyfleusterau rydych chi wedi’u harchebu.


Ar gyfer eich sesiwn gyntaf yn ôl, dewch ychydig yn gynharach na’r amser rydych chi wedi’i neilltuo gan y bydd angen i chi fynd i’r dderbynfa i ddiweddaru llun eich aelodaeth. Peidiwch â phoeni, bydd hyn yn cymryd ychydig funudau yn unig ac yna gallwch chi fynd i’r pwll neu’r gampfa. Os byddwch chi’n hyfforddi ar Gampws y Bae, ewch i’r Dderbynfa fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer, er mwyn gwneud yr un peth.


Rydym ni’n gofyn i bobl barhau i wisgo gorchudd wyneb yn y cyfleusterau, cadw pellter cymdeithasol rhag pobl eraill a diheintio/golchi eich dwylo’n rheolaidd. Pan fyddwch chi yn y gampfa, gofynnir i chi lanhau’r cyfarpar cyn ac ar ôl ei ddefnyddio hefyd – ceir gorsafoedd glanhau o gwmpas y gampfa er mwyn gwneud hyn mor hawdd â phosibl.


Mynd i nofio? Pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich sesiwn, ewch i’r Dderbynfa i dderbyn eich locer dynodedig a rhif eich ciwbicl. Rydym ni’n gofyn i chi ddefnyddio’r un ciwbicl cyn ac ar ôl defnyddio’r pwll a gwneud yn siŵr eich bod yn cael cawod cyn mynd yn y pwll. Rydym wedi cau bob yn ail gawod er mwyn cadw pellter cymdeithasol, felly defnyddiwch y cawodydd nad ydynt wedi’u cau yn unig.


Nid oes cyfleusterau newid yn y naill gampfa na’r llall ar hyn o bryd, felly dewch yn barod ar gyfer hyfforddi (mewn dillad ac esgidiau priodol…dim denim na fflip-fflops os gwelwch yn dda!) Sicrhewch eich bod yn dilyn y systemau unffordd sydd ar waith ac yn hyfforddi ar eich pen eich hun pan fo’n bosibl. Fel y nodwyd, defnyddiwch y cyfarpar glanhau a ddarperir er mwyn weipio’r cyfarpar cyn ac ar ôl ei ddefnyddio. Bydd ein tîm yn glanhau rhwng sesiynau hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn lân ar gyfer y grŵp nesaf.


Yn olaf, y newid mwyaf cyffrous i’n haelodau yw’r Ap newydd sydd gennym! Rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed ar greu ap hwylus a hygyrch ar gyfer ein haelodau, lle gallant gadw lleoedd ym mhob sesiwn a’u rheoli. Os ydych chi am gadw lle mewn sesiwn nofio, cwrt tennis neu sesiwn yn y gampfa, mae’r ap yn eich galluogi i wneud hyn. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw chwilio am “Swansea Bay Sports Park” yn App Store neu Play Store er mwyn lawrlwytho’r ap a dechrau cadw lleoedd!


Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu’n ôl i’n holl gyfleusterau yn ystod yr wythnosau i ddod. Cadwch lygad am ddiweddariadau amlach yn y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys oriau agor, dosbarthiadau yn y gampfa a Covid-19.