Mae Varsity Cymru fel arfer yn digwydd tua’r Pasg, gydag Abertawe a Chaerdydd yn cynnal y digwyddiad bob yn ail flwyddyn – felly cadwch eich dyddiaduron yn glir ar gyfer digwyddiad chwaraeon y flwyddyn!

Dyma’r digwyddiad myfyrwyr mwyaf yng Nghymru, ac ar wahân i Rydychen-Caergrawnt, dyma ail varsity fwyaf Prydain. Mae Varsity yn gweld prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o wahanol chwaraeon, o bêl-fasged, rhwyfo, golff, hoci a nofio, i ffensio, sboncen a ffrisbi eithafol.

Daw’r digwyddiad i ben gyda’r gêm rygbi fawreddog gyda thorfeydd o 15,000 i 20,000 fel arfer mewn stadiwm fawr – y Principality yng Nghaerdydd neu’r Liberty yn Abertawe fel arfer – ac mae’n aml yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu.

Gallwch weld ein holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill, gan gynnwys Varisty 2022, ar ein tudalen Digwyddiadau.