Rydym wedi llunio rhestr o awgrymiadau rydym yn meddwl allai helpu i wneud eich taith i ffitrwydd yn un llwyddiannus.

1. Gofynnwch am gymorth – mae staff bob amser wrth law i helpu.

2. Byddwch yn gyson – trefnwch nifer o sesiynau bob wythnos y gallwch lynu wrthynt.

3. Yfwch ddigon

4. Pennwch nodau i chi eich hun

5. Ceisiwch olrhain eich sesiynau ymarfer corff fel y gallwch weld eich cynnydd.

6. Dewiswch gerddoriaeth dda.

7. Cymysgwch eich sesiynau ymarfer corff – cymerwch fantais o’r amrywiaeth o ddosbarthiadau sydd ar gael (HIIT, Troelli, Cryfder, Ioga)

8. Peidiwch â theimlo cywilydd neu boeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl – efallai fod hyn yn swnio’n haws dweud na gwneud ond mae pawb sydd yn y gampfa yn canolbwyntio arnyn nhw eu hunain.

9. Dewiswch ymarferion corff rydych chi’n eu mwynhau – ni ddylai hyn fod yn waith diflas.

10. Dewch â ffrind gyda chi er mwyn ymarfer gyda’ch gilydd. 

11. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymestyn – mae cynhesu ac oeri eich cyhyrau’n bwysig i osgoi anafiadau ac ysigiadau.

Os oes angen mwy o help arnoch neu gynllun i’w ddilyn, siaradwch ag aelod o staff.

Cadwch le mewn dosbarth