Mae Leon wedi bod yn aelod allweddol o’r tîm am bron 2 flynedd nawr, felly rydym ni wedi cwrdd ag ef i ofyn ychydig gwestiynau iddo er mwyn i’n haelodau ddod i’w adnabod ychydig yn well.
Mae Leon yn Rheolwr ar Ddyletswydd yma ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ac mae e’n gofalu am geisiadau i archebu’r cyfleusterau dan do. Dechreuodd weithio yn y diwydiant campfeydd 13 yn ôl, ac nid yw byth wedi edrych yn ôl.

Sut dechreuaist ti ym myd Chwaraeon? Pan oeddwn i’n blentyn roeddwn i bob amser yn aflonydd ac yn defnyddio chwaraeon fel ffordd o ddisgyblu fy hun. Dechreuais i baffio yn 10 oed a ‘dwi wedi bod yn frwdfrydig amdano ers hynny.

P’un yw dy hoff gamp? ‘Dwi’n dwlu ar baffio; mae lefel y ffitrwydd a’r ddisgyblaeth gelli di ei chael ohoni yn anhygoel.

P’un yw dy hoff ddosbarth ffitrwydd i’w gynnal?  Fy hoff ddosbarth i’w gynnal yw’r dosbarth troelli. ‘Dwi’n mwynhau cymryd rhan ac ymarfer corff ochr yn ochr â’r aelodau.

P’un yw dy hoff ddosbarth i ymuno ag ef? HIIT, ‘dwi’n hoffi ei wneud – mae’n ddosbarth gwych, llawn egni. Mae’n ddwys iawn ac rwyt ti’n ymarfer dy holl gorff.

Pe taset ti’n agor dy gampfa dy hun, pa ddarn o offer byddet ti’n dymuno mynd ag ef â thi fwyaf?  Y Prowler – mae’n gyfarpar gwych, mae’n ymarfer dy holl gorff a gall unrhyw un ei ddefnyddio, beth bynnag ei oedran neu’i allu.

Beth yw dy hoff beth am weithio ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe? Yr amgylchedd gwaith, yr ethos a’r holl bobl o amgylch. Mae’n bleser bod gyda fy nghydweithwyr a’r aelodau hefyd. (Geiriau caredig?!)

Ac yn olaf, beth yw dy hoff beth i’w wneud y tu allan i’r gwaith?  ‘Dwi’n mwynhau cerdded ar y traeth a threulio amser gyda fy nheulu. Mae teulu yn bwysig iawn.

Roeddem ni wrth ein boddau’n cwrdd â Leon ac yn dod i’w adnabod ychydig yn well. Gobeithiwn dy fod ti hefyd! Gan edrych ymlaen at gwrdd ag aelod arall o’r tîm.