Mae’r manteision corfforol a meddyliol o fynd i’r gampfa yn rhoi llawer mwy o foddhad na’r gwaith caled o fynd yno a rhoi’r amser a’r ymdrech y mae’n eu cymryd i deneuo neu adeiladu cyhyrau. Fodd bynnag, mae ymarfer corff yn rheolaidd yn gallu teimlo’n feichus os nad wyt ti’n teimlo cymhelliant.  Felly, os wyt ti wedi colli rhywfaint o dy gymhelliant, efallai ei bod hi’n bryd i ti ddiwygio’r drefn?  Wel, rydyn ni yma i dy atgoffa bod sawl ffordd o gael y cymhelliant hwnnw’n ôl! Dyma 5 awgrym gorau i gynnal dy gymhelliant yn y gampfa: 

  1. DOD O HYD I BARTNER AR GYFER Y GAMPFA

Gall fod yn hawdd osgoi’r gampfa os wyt ti’n dibynnu ar ysgogi dy hunan i godi a mynd.  Ond os oes gennyt ti bartner campfa sydd wedi ymrwymo i fynd yn rheolaidd, boed hynny’n ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n gydweithiwr, byddi di’n fwy tebygol o fynd. Yn fwy na hynny, bydd gennyt ti rywun arall i dy annog di! Os oes gennyt ti bartner campfa posibl mewn golwg ac nad yw’n aelod o Barc Chwaraeon Bae Abertawe, clicia ar y ddolen ganlynol gan fod hawl i aelodaeth Gonsesiwn.

Cofia gymryd seibiant pan fyddi di’n dymuno hynny. Mae’n iawn cael diwrnod neu ddau o seibiant i flaenoriaethu mathau eraill o hunanofal sy’n dy wneud di’n hapus!

  • CREU RHESTR CHWARAE FYWIOG

Does dim byd sy’n dy roi di yn yr hwyliau gorau ar gyfer y gampfa na rhestr chwarae dda â cherddoriaeth fywiog.  Dylet ti greu rhestr chwarae Spotify a chael argymhellion i ganeuon ar sail beth rwyt ti’n ei ychwanegu at y rhestr chwarae.  Efallai bydd caneuon newydd yn rhoi’r cymhelliad i ti chwysu fwy. Fel arall, os nad wyt ti’n hoff o Spotify, gelli di chwilio yn YouTube am ‘Best Gym Playlist 2022’ a gweld a oes unrhyw un o’r caneuon hynny’n codi awydd arnat ti. Os nad wyt ti’n siŵr ble i ddechrau ac os hoffet ti i ni ddarparu rhywfaint o ysbrydoliaeth am ganeuon, edrycha’n ôl yn fuan ar gyfer ein blog sydd ar y gweill oherwydd y byddwn yn postio ein dewisiadau gorau fel staff ar gyfer dy restr chwarae nesaf ar gyfer y gampfa!

  • CADW LLE MEWN DOSBARTH YN Y GAMPFA

Os wyt ti dim ond yn rhedeg ar y felin droed a chodi pwysau yn y gampfa, gall fynd yn undonog a dy wneud yn llai tebygol o ymweld yn rheolaidd. Drwy gadw lle mewn amrywiaeth o ddosbarthiadau megis ein dosbarthiadau ffitrwydd mewnol Evolve, gan gynnwys troelli, HIIT, pilates, ioga a mwy, byddi di’n dod o hyd i ffyrdd newydd o gadw’n heini, cwrdd â phobl newydd a gwella dy les  corfforol a meddyliol.   Os nad wyt ti wedi dod i ddosbarth campfa o’r blaen ac yn teimlo braidd yn nerfus, paid ag oedi cyn siarad ag aelod o dîm Parc Chwaraeon Bae Abertawe – rydym yn fwy na pharod i helpu i ateb unrhyw ymholiadau ynghylch y gampfa neu ddosbarth!

  • RHOI LLUN YSGOGOL AR DY FFÔN

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd â’u ffôn i’r gampfa i gadw golwg ar yr amser, gwrando ar gerddoriaeth ac weithiau gymryd lluniau o gynnydd.  Os wyt ti’n colli cymhelliant/yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi’n gynnar, gallai cael llun ysgogol ar dy ffôn helpu i dy atgoffa i ddal ati yn ystod gwaith cardiofasgwlaidd neu wrth wneud setiau. Bydd hyn yn dy atgoffa o pam rwyt ti’n gwneud yr holl waith caled!  Dylet ti ddod o hyd i lun o rywbeth neu rywun sy’n dy ysgogi, boed yn arbenigwr ffitrwydd neu’n rhywun enwog sydd â chorff neu feddylfryd rwyt ti’n anelu ato, dyfyniad ysgogol, ffrindiau, aelodau o’r teulu –  unrhyw beth arall sy’n sbarduno dy gymhelliant. Gall hyn wneud y tro i’r dim!

  • ELWA O LWYDDO

Rydym yn eiriolwyr cryf dros fanteision diddiwedd ymarfer corff, o ryddhau endorffinau i fod yn fwy egnïol.  Mae ein dosbarthiadau Evolve yn y bore yn helpu ein haelodau i deimlo’n gryf ac yn barod i lwyddo yn ystod y diwrnod sydd i ddod. Mae ein dosbarthiadau ioga a pilates ymlaciol yn helpu aelodau i leihau straen a chysgu’n dawelach. Mae’n anhygoel gweld pobl llawn cymhelliant yn y gampfa cyn gadael yn teimlo’n fwy cadarnhaol, oherwydd pan fyddi di’n ymweld â’r gampfa yn rheolaidd, rwyt ti’n sicrhau ffordd iach ac egnïol o fyw.  Pan rwyt ti’n dechrau gweld cynnydd corfforol a/neu feddyliol, rwyt ti’n sylweddoli bod ymarfer corff yn y gampfa yn wobrwyol dros ben.