Fel tîm, mae gennym ni ein hoff ganeuon i wrando arnynt yn y gampfa. Felly, rydym ni wedi penderfynu cynnig hoff ddewisiadau ein staff i chi ar gyfer eich rhestr ganeuon nesaf chi. Felly, os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, rydych chi yn y lle iawn – darllenwch ein rhestr isod i gael argymhellion!

Brydan, Rheolwr Cyfleusterau Dan Do

‘Jay-Z & Linkin Park’ – Numb\Encore a ‘N*E*R*D’ – Rockstar

Os ydych chi’n llawn cymhelliant, gallai’r caneuon hyn wneud i chi weithio’n galetach!

Jordan Poole, Rheolwr Cynorthwyol Cyfleusterau

Rhowch gynnig ar Steel Panther! Ar wahân i’r caneuon roc amlwg, gwnâi gynnig Black Stone Cherry – ‘Blame it on the Boom Boom’ a Nickleback – ‘Lullaby’ i’r rhestr

Pam? … achos ‘death to all but metal!

Claire, Rheolwr Ar Ddyletswydd

‘Break My Soul’ – Beyonce a ‘About Damn Time’ – Lizzo

Pan fyddwch chi’n gwrando, byddwch chi’n deall!

Jordan Evans, Rheolwr Ar Ddyletswydd

Byddwn i’n dweud ‘Unchained’ gan Van Halen. Y rheswm dros fy argymhelliad? Mae’n hollol wych ac mae’n cael ei diystyru’n aml fel cân ar gyfer hyfforddiant.

Byddwn i hefyd yn argymell ‘Master of Puppets’ gan Metallica achos mae’n gwneud i’r galon guro.

Luke Powlson, Uwch Hyfforddwr y Gampfa

Mae ‘Till I Collapse’ gan Eminem yn un o’m hoff ganeuon, yn enwedig gyda’m setiau trymach. Fel arall, mae unrhyw beth â churiad da yn iawn gen i. Yn bennaf, dw i’n defnyddio cerddoriaeth i atal synau sy’n tynnu fy sylw yn hytrach na gwrando mewn ffordd ragweithiol arni wrth hyfforddi. Wrth wneud ymarfer corff cardio, gan ddibynnu ar y gweithgaredd dan sylw, dw i’n hoffi gwrando ar bodlediad neu fideo ar YouTube.

Dylan Segelov-Comley, Uwch Gynorthwy-ydd Chwaraeon

Y ddwy gân sy’n ysbrydoli defnyddwyr campfa Singleton yw – ‘Sash’ – Ecuador a ‘Groove is in the Heart’ – Deee-Lite. Caneuon gwych i ychwanegu at  restr ganeuon ar gyfer y gampfa!

Suzie Broad, Cynorthwy-ydd Chwaraeon

Dyma ambell gân dw i’n hoffi eu defnyddio yn fy nosbarth beicio dan do!

‘Sweet Dreams’ – Eurythmics

‘On Top Of The World’ – Imagine Dragons

‘Dog Days Are Over’ – Florence and the Machine

‘Run’ – OneRepublic

Ceisiwch amrywio’r cyflymder a’r rhythm – cerddoriaeth sy’n cyd-fynd â’r dwysedd!

Elliot Lewis, Cynorthwy-ydd Chwaraeon

‘Flashing Lights’ – Chase & Status

Dw i’n dwlu ar y gân hon wrth godi pwysau trwm. Mae’n datblygu’n araf, sy’n helpu wrth i chi baratoi ar gyfer eich set. Pan fydd y curiad yn dechrau, mae llawer o fas, sy’n wych, oherwydd bod astudiaethau wedi canfod bod cerddoriaeth â llawer o fas yn gwneud i lawer o wrandawyr deimlo’n fwy pwerus.

‘Stronger’ – Kayne West

Pwy sydd ddim yn hoffi ychydig o Kanye? Mae’r gân yn llawn cymhelliant a bydd yn cadw pawb i fynd drwy gydol eu sesiwn!

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau ein hargymhellion ar gyfer eich rhestr ganeuon ar gyfer eich sesiwn nesaf yn y gampfa! Bydd curiadau cryf yn codi curiad eich calon ac yn helpu chi i gael sesiwn wych. Joiwch!