Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn wynebu pennod gyffrous newydd, yn dilyn penodi Freedom Leisure  weithredwr newydd cyfleusterau chwaraeon a hamdden y safle.

Ar ôl proses gaffael eang a thrylwyr, mae Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi penodi Freedom Leisure yn weithredwr newydd cyfleusterau chwaraeon a hamdden ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, gan nodi pennod gadarnhaol newydd ar gyfer y safle a phawb sy’n rhan ohoni.

Bydd y cytundeb hwn yn cael ei oruchwylio gan SBSP Ltd, cwmni menter nid er elw sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe. Mae SBSP Ltd wedi’i chreu i arwain datblygiad strategol y safle, gan adeiladu ar dros 25 mlynedd o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ers sefydlu Pwll Cenedlaethol Cymru.

O 1 Awst 2026, bydd Freedom Leisure yn gyfrifol am weithredu’r cyfleusterau ar draws y parc chwaraeon, gan helpu i wella profiad y cwsmeriaid, cefnogi perfformiad chwaraeon, a chreu sylfaen gref ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol. Bydd y trefniadau newydd yn sicrhau y bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe’n parhau i ffynnu fel hyb rhanbarthol ar gyfer chwaraeon  cymunedol, perfformiad a myfyrwyr.


O 1 Awst, bydd Freedom Leisure yn gweithredu cyfleusterau ar draws y safle, gan gynnwys:

  • Canolfan Chwaraeon a chaeau awyr agored Prifysgol Abertawe
  • Pwll Cenedlaethol Cymru
  • Canolfan Athletau a Hoci
  • Caeau Chwarae Brenin Siôr V yn Heol Ashleigh
  • Cyfleusterau chwaraeon a hamdden ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Er bod Freedom Leisure eisoes yn gweithredu cyfleusterau ledled Abertawe, mae hwn yn gontract annibynnol a bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn parhau i weithredu fel safle ar wahân gyda’i hunaniaeth a’i ffocws ei hun.

Mae gwaith ar y gweill nawr i sicrhau trosglwyddiad llyfn i’r gweithredwr newydd. Nid oes unrhyw newidiadau uniongyrchol i gwsmeriaid, sy’n gallu parhau i ddefnyddio’r cyfleusterau fel arfer.

Fel rhan o’r ymagwedd yn y dyfodol, disgwylir y bydd:

  • Strwythurau prisiau presennol, gan gynnwys disgowntiau a chyfraddau rhatach, yn parhau
  • Mynediad blaenoriaeth i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, gan gynnwys amseroedd chwaraeon myfyrwyr ymroddedig yn parhau

Bydd tîm Chwaraeon y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda Freedom Leisure i ddatblygu amserlen ar gyfer  tymor 2026/27, gan sicrhau y bydd mynediad i fyfyrwyr yn parhau’n flaenoriaeth graidd.

Am Freedom Leisure

Freedom Leisure yw un o ymddiriedolaethau hamdden a diwylliannol nid er elw mwyaf blaenllaw’r DU, gan weithredu mwy na 130 o leoliadau hamdden, diwylliannol ac adloniant ar draws y wlad.

Gyda saith mlynedd o brofiad yn gweithredu cyfleusterau hamdden yn Abertawe, mae Freedom Leisure yn dod â dealltwriaeth gref o gymunedau lleol a hanes o gyflwyno gwasanaethau hamdden hygyrch o ansawdd uchel.

Mae hon yn bartneriaeth gyffrous iawn ar gyfer dyfodol Parc Chwaraeon Bae Abertawe ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi ein cymuned, ein myfyrwyr a’n athletwyr am lawer o flynyddoedd i ddod.

Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch dîm Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn:
📧 enquiries.sbsp@abertawe.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin

Ydych chi’n cyflwyno gweithredwr newydd?

Mae Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe wedi cyflwyno model gweithredu newydd ar gyfer Parc Chwaraeon Bae Abertawe i gefnogi gwelliannau i brofiad  cwsmeriaid, cryfhau perfformiad a chreu sylfaen ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol yn y safle.

Pam mae Freedom Leisure wedi cael ei benodi?

Mae Freedom Leisure wedi’i ddewis yn dilyn proses gaffael sylweddol.  Mae’n weithredwr hamdden nid er elw profiadol sydd â hanes cryf o reoli cyfleusterau hamdden a chwaraeon. Bydd y penodiad hwn yn cefnogi datblygiad parhaus Parc Chwaraeon Bae Abertawe ac yn helpu i wella’r profiad i ddefnyddwyr.

Beth yw SBSP Ltd?

Mae SBSP Ltd yn gwmni menter ar y cyd nid er elw newydd, sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe. Mae wedi cael ei sefydlu i oruchwylio datblygiad hir dymor a chyfeiriad strategol Parc Chwaraeon Bae Abertawe.

A fydd hwn yr un peth â chyfleusterau Freedom Leisure eraill yn Abertawe?

Er bod Freedom Leisure yn gweithredu nifer o gyfleusterau ledled Abertawe, mae hwn yn gontract annibynnol. Bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cadw ei hunaniaeth amlwg ac yn parhau i gefnogi chwaraeon cymunedol, perfformiad a  myfyrwyr.

A fydd y cyfleusterau’n parhau i fod ar agor yn ystod y trosglwyddiad hwn?

Byddant. Bydd y cyfleusterau’n parhau i fod ar agor, ac rydym ni’n gweithio i sicrhau trosglwyddiad llyfn, di-dor.

A fydd modd i mi ddefnyddio’r cyfleusterau fel arfer?

Bydd. Nid oes unrhyw newidiadau uniongyrchol i gwsmeriaid, a gallwch barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau fel arfer.

A fydd fy archebion presennol yn parhau?

Byddant. Bydd archebion presennol yn parhau fel y cynlluniwyd.

Beth fydd yn wahanol o fis Awst?

Mae’r model gweithredu newydd wedi’i ddylunio i wella’r profiad cyffredinol ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a chefnogi gwelliannau yn y dyfodol. Ar y cam hwn, nid oes unrhyw newidiadau uniongyrchol i gwsmeriaid, ac rydym yn gweithio tuag at drosglwyddiad llyfn, di-dor.

Pa gyfleusterau sy’n cael eu cynnwys yn y trefniant newydd?

Mae’r trefniant newydd yn cynnwys Canolfan Chwaraeon a chaeau chwarae Prifysgol Abertawe, Pwll Cenedlaethol Cymru, y Ganolfan Athletau a Hoci, Caeau Chwarae Brenin Siôr V yn Heol Ashleigh, a chyfleusterau chwaraeon ar Gampws y Bae y Brifysgol.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dyfodol Parc Chwaraeon Bae Abertawe?

Mae’r bartneriaeth yn creu sylfaen gref ar gyfer buddsoddiad a datblygiad yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau y bydd Parc Chwaraeon Bae Abertawe’n parhau i chwarae rôl flaenllaw ym maes chwaraeon cymunedol, perfformiad a  myfyrwyr.

A fydd newidiadau i wasanaethau neu gyfleusterau yn y dyfodol?

Ffocws y model newydd yw gwella a datblygu’r cyfleusterau dros amser. Bydd unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn cael eu cyfleu’n glir ymlaen llaw.

Sut mae hyn yn cysylltu â datblygiadau ehangach megis y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH)?

Mae’r model newydd hefyd yn cefnogi uchelgeisiau rhanbarthol ehangach, gan gynnwys datblygu’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH), a fydd yn cryfhau Parc Chwaraeon Bae Abertawe ymhellach fel canolfan ar gyfer chwaraeon, iechyd ac arloesedd.

Sut byddaf yn cael gwybod am unrhyw newidiadau?

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau drwy dudalennau gwe a sianeli cyfathrebu swyddogol Parc Chwaraeon Bae Abertawe dros y misoedd nesaf.

 phwy galla i gysylltu os oes gennyf gwestiwn?

Os oes gennych gwestiwn, e-bostiwch Dîm Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn: enquiries@swanseabaysportspark.co.uk.