Gyda chyfleusterau chwaraeon ardderchog, wedi’u gwasgaru ar draws dau safle, mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yma i’ch helpu i gyrraedd eich nodau iechyd a ffitrwydd, beth bynnag fo’ch gallu!

Waeth beth fo’ch lefel ffitrwydd, Parc Chwaraeon Bae Abertawe yw’r ganolfan chwaraeon berffaith yn Abertawe gyda’n pwll, campfa a chaeau i fynd i’r afael â ffitrwydd am y pris gorau posibl. 

Rydym yn cynnig nid yn unig aelodaeth gyffredinol i’r gymuned ond amrywiaeth o aelodaeth gonsesiwn fel y gall pawb fynd i’r afael â ffitrwydd. Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym aelodaeth ar eich cyfer i’n cyfleuster a’n clybiau chwaraeon.

Wedi’i leoli ger Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe, mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe gyfleusterau hyfforddi ar gyfer pob lefel, gan gynnwys caeau awyr agored, trac rhedeg, canolfan athletau dan do, campfa, cyrtiau raced, a phwll nofio maint Olympaidd 50m.

Mae gan Gampws y Bae gaeau awyr agored ar hyd y traeth a chyfleusterau dan do ar gyfer hyfforddiant pwysau, cardio a dosbarthiadau ffitrwydd. Y neuadd chwaraeon uchder llawn yw’r lle perffaith i gymryd rhan mewn badminton, saethyddiaeth neu bêl-fasged.

Gydag amrywiaeth o opsiynau hyfforddi a dosbarthiadau ffitrwydd, mae ein cyfleusterau yn gyfle perffaith i ychwanegu ychydig o amrywiaeth at eich trefn ymarfer corff. Er mwyn eich galluogi i wneud y gorau o’n cyfleusterau, mae gan Barc Chwaraeon Bae Abertawe amrywiaeth o opsiynau aelodaeth ar gael gydag amrywiaeth o ddulliau talu.

Sylwer bod gennym gyfraddau consesiynau ar gael ar gyfer y grwpiau dethol canlynol:

Staff Prifysgol Abertawe

Staff Dinas a Sir Abertawe

Partneriaid/Priod Staff Prifysgol Abertawe

Partneriaid/Priod Staff Dinas a Sir Abertawe

Myfyrwyr nad ydynt yn fyfyrwyr PA (llawn amser)

Dan 16

Gwasanaethau Brys, Tân, Ambiwlans, yr Heddlu, Gwylwyr y Glannau

Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dros 60 oed

Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe

Atgyfeirio Ymarfer Corff (Meddyg Teulu neu Weithiwr Iechyd Proffesiynol arall a Atgyfeirir)

Gwasanaeth Sifil

Pasbort i Hamdden

Deiliaid Cerdyn Max

Gwasanaethu’r Lluoedd Arfog

Wedi Dod o Hyd i’r Hyn yr Ydych yn Chwilio Amdano?

CLICIWCH i brynu nawr!

Gallwch brynu eich aelodaeth campfa ar-lein heddiw. Os ydych am gofrestru ar gyfer dosbarth ffitrwydd, mae ein hamserlen gyfan bellach ar gael drwy ein system archebu ar-lein.

I drafod yr opsiynau isod neu i drefnu ymweliad anffurfiol â’n cyfleusterau, cysylltwch a ‘n tim defnyddiol yma.

cysylltwch a’n tim defnyddiol yma